Dau newid i’r pac ar gyfer yr ornest yn erbyn Leinster

Dau newid i’r pac ar gyfer yr ornest yn erbyn Leinster

16 Feb 2018
Dau newid i’r pac ar gyfer yr ornest yn erbyn Leinster
Mynd yn ôl

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets, wedi enwi ei dîm i wynebu Leinster yn y Guinness PRO14 prynhawn Sadwrn.

 

Fe fydd y ddau dîm yn gobeithio taro’n ôl gyda pherfformiadau da ar ôl colli yn erbyn Benetton a Chaeredin penwythnos diwethaf.

 

Er gwaetha’r golled i Gaeredin fe symudodd Leinster i frig Adran B ar ôl Rownd 14 gyda’r Scarlets yn symud i’r ail safle, ond yn dal yn hafal ar bwyntiau.

 

Bydd gêm prynhawn Sadwrn yn un o ddwy gêm rhwng y ddau dîm mewn mater o wythnosau gyda’r Scarlets yn croesawu Leinster i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 3ydd Mawrth.

 

Mae Pivac wedi gwneud dau newid i’r XV cychwynol gyda Steve Cummins a Josh Macleod yn cymryd lle Lewis Rawlins a Will Boyde.

 

Fe fydd Steff Hughes unwaith eto yn arwain y tîm gyda chapten y clwb Ken Owens a’r is-gapteiniaid cyson Scott Williams, Hadleigh Parkes a John Barclay ar ddyletswydd rhyngwladol.

 

Fe fyddai canlyniad ar yr hewl yn ddiweddglo hapus i ddathliad penblwydd Hughes sy’n troi 24 fory.

 

Fe fydd y prop pentynn Simon Gardiner yn chwarae ei hanner ganfed gêm i’r rhanbarth pan ddaw oddi ar y fainc gyda’r prop penrhydd Phil Price yn chwarae ei gêm gyntaf yn y Guinness PRO14 i’r Scarlets tra ei fod ar fenthyg or’r Dreigiau.

 

Scarlets side to take on Leinster at the RDS, Saturday 17th February, kick-off 15:15;

 

15 Johnny Mcnicholl, 14 Tom Prydie, 13 Paul Asquith, 12 Steff Hughes ©, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Ryan Elias, 3 Werner Kruger, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Tadhg Beirne, 7 James Davies, 8 Josh Macleod

 

Replacements; 16 Emyr Phillips, 17 Phil Price, 18 Simon Gardiner, 19 Lewis Rawlins, 20 Will Boyde, 21 Declan Smith, 22 Corey Baldwin, 23 Tom Williams