Varndell yn ymuno â’r Scarlets

Varndell yn ymuno â’r Scarlets

6 Mar 2018
Varndell yn ymuno â’r Scarlets
Mynd yn ôl

Mae’r Scarlets yn gallu cadarnhau bod yr asgellwr rhyngwladol Tom Varndell wedi ymuno â’r rhanbarth ar gytundeb byr.

 

Mae’r asgellwr sy’n chwarae i Fryste, yn ymuno â’r rhanbarth heddiw tan ddiwedd y tymor.

 

Gyda Johnny Mcnicholl mas am y tymor ar ôl llawdriniaeth i’w ysgwydd, Tom Prydie mas am y tymor hir ar ôl llawdriniaeth i’w benglin a Tom Grabham, Rhys Jones a Morgan Williams yn yr ystafell feddygol yn ogystal a Steff Evans, Leigh Halfpenny a Rhys Patchell ar ddyletswydd rhyngwladol mae’r Scarlets wedi arwyddo’r asgellwr i gryfhau’r tri ôl.

 

Mae’r asgellwr wedi ennill pedwar cap rhyngwladol ac fe enillodd goron y chwaraewr i sgori’r nifer mwyaf o geisiau yn Uwchgynghrair yr Aviva tymor diwethaf.