Enillwch brofiad unigryw rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop

Enillwch brofiad unigryw rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop

20 Feb 2018
Enillwch brofiad unigryw rownd wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop
Mynd yn ôl

Mae’r Scarlets, mewn cydweithrediad â’n partneriaid Intersport a Thomas Cook Sport, yn falch iawn cynnig profiad unigryw yn ein gêm yn erbyn La Rochelle yn Rownd yr Wyth Olaf i un enillydd lwcus.

 

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu ei gêm ail gyfle Ewropeaidd cyntaf erioed ar ddydd Gwener 30ain Mawrth wrth i’r Scarlets baraoti i wynebu La Rochelle yn rownd wyth olaf yntaf y clwb ers degawd a mwy.

 

Ar ôl buddugoliaethau tanllyd dros Gaerfaddon a RC Toulon fe orffennodd y Scarlets ar frig y grwp gan gipio gêm gartref.

 

Gyda thocynnau ar gyfer y gêm wedi gwerthu mas yn barod ry’n ni wedi dod ynghyd â’n partneriaid Interspot a Thomas Cook Sport i gynnig penwythnos bythgofiadwy i chi!!

 

Mae’r Pecyn UNigryw yn wobr gwych a fydd yn siwr o wneud eich Pasg yn un eithriadol!

 

Fe fydd un enillydd lwcus yn ennill;

  • Pâr o docynnau i Scarlets v La Rochelle
  • Mynediad i’r babell lletygarwch moethus, gan gynnwys pryd o fwyd, sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr y Scarlets a mynediad i’r lleoliad ar ôl y gêm
  • Dwy noson mewn gwesty
  • Taleb gwerth £100 i wario ar Intersport ar y we
  • Taith o’r stadiwm cyn cic gyntaf Scarlets v La Rochelle
  • Taleb bwyd yn y gwesty
  • Dau wy Pasg moethus

 

Er mwyn cael cyfle i ennill y wobr arbennig yma y cyfan sydd angen i chi wneud yw creu argraff ar ein panel o feirniaid – a fydd yn cynnwys Jonathan Davies a Jake Ball!!

 

Yn union fel y mae’r chwaraewyr wedi gorfod brwydro i ennill eu lle yn Rownd yr Wyth Olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ry’n ni eisiau i chi ddangos i ni gymaint ry’ch chi eisiau bod #ynypac ar gyfer y digwyddiad hanesyddol yma!

 

Yn syml iawn ry’n ni eisiau i chi ddweud wrthym am eich profiad Scarlets gorau erioed. Fe fyddwn ni’n beirniadu ar sail cryfder y stori! Ry’n ni eisiau i chi rannu lluniau, fideos a manylion am eich profiad.

 

Cystadlwch ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #IWasThereWithScarlets – gwnewch yn siwr o gynnwys yr hashnod fel ein bod ni’n gallu dod o hyd i’ch cais!

 

Rhannwch eich cais erbyn 9am Gwener 9fed Mawrth er mwyn sicrhau eich bod chi yn y gystadleuaeth. Dnagoswch eich emosiwn, eich creadigrwydd ac adroddwch stori fel T. Llew Jones!

Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd o dan 18 mlwydd oed fod yng ngofal oedolyn cyfrifol.