Scarlet ifanc yn gobeithio am ddiweddglo positif

Scarlet ifanc yn gobeithio am ddiweddglo positif

19 Jan 2018
Scarlet ifanc yn gobeithio am ddiweddglo positif
Mynd yn ôl

Fe fydd tîm Dethol y Scarlets yn croesawu Ulster A i Fanc yr Eglwys, Llanymddyfri, prynhawn Sadwrn yng ngêm grwp olaf ymgyrch Cwpan Prydain a Gwyddelig.

 

Fe fydd tîm ifanc y rhanbarth yn wynebu Ulster A yn y gêm olaf gan obeithio sicrhau canlyniad llwyddiannus ar ôl y siom o golli i Hartpury tymor diwethaf.

 

Fe fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Llanymddyfri, cic gyntaf 2pm, cyn gêm Ewropeaidd y Scarlets ym Mharc y Scarlets.

 

Mae Ulster A ar frig grwp 5 gyda’r Scarlets yn drydydd yn y tabl. Fe fydd y Cornish Pirates yn wynebu Hartpury.

 

Tîm Dethol y Scarlets i wynebu Ulster A;

 

15 Tom Rogers, 14 Morgan Griffiths, 13 Corey Baldwin, 12 Rhodri Jones, 11 Ryan Conbeer, 10 Jacob Botica, 9 Jonathan Evans, 1 Dylan Evans, 2 Emyr Phillips, 3 Javan Sebastian, 4 Josh Helps, 5 Chris Long, 6 Lewis Elis-Jones, 7 Stuart Worrall, 8 Jack Condy ©