Scarlets ifanc i godi tlws y becampwriaeth yn y Parc nos Fawrth

Scarlets ifanc i godi tlws y becampwriaeth yn y Parc nos Fawrth

5 Feb 2018
Scarlets ifanc i godi tlws y becampwriaeth yn y Parc nos Fawrth
Mynd yn ôl

Fe fydd Scarlets dan 18 yn dychwelyd i Barc y Scarlets nos Fawrth 6ed Chwefror yn rownd olaf Pencampwriaeth graddau oed URC.

 

Ar ôl sicrhau wyth buddugoliaeth pwynt bonws o wyth gêm fe enwyd y Scarlets yn bencampwyr gyda dwy rownd yn weddill yn yr ymgyrch.

 

Nid oedd colled anisgwyl i’r Gweilch wythnos diwethaf yn ddigon i effeithio ar y rownd olaf yn erbyn Gleision y Gogledd nos yfory gyda’r Scarlets yn gobeithio gorffen yr ymgyrch ar nodyn boisitif cyn codi’r tlws ar ddiwedd y noson.

 

Fe fydd Parc y Scarlets yn agor y drysau i’r gêm rhanbarthol gyda chroeso i deulu, ffrindiau a chefnogwyr i ymuno yn y dathliadau pan fydd y Scarlets yn cael eu coroni’n Bencampwyr Dan 18 URC 2017-18.

 

Pris mynediad yw £3 y pen a phlant dan 16 oed yn cael mynediad yn rhad ac am ddim. Fe fydd mynediad trwy’r brif dderbynfa a Lolfa Quinnell gyda’r gêm yn cael ei chwarae ar y brif gae ym Mharc y Scarlets.

 

Tîm Scarlets dan 18 i wynebu Gleision y Gogledd ym Mharc y Scarlets, Mawrth 6ed Chwefror, cic gyntaf 7pm;

 

15 Harri Dole, 14 Dean James, 13 Joe Roberts, 12 Osian Knott, 11 Alex Varney, 10 Llew Smith, 9 Dafydd Land, 1 Callum Williams, 2 Dom Booth, 3 Adam Thomas, 4 Iestyn Reed, 5 Jac Price, 6 Jac Morgan, 7 Gethin Davies, 8 Sam Williams

 

Eilyddion: 16 Llew Phillips-Taylor, 17 Keelan Jewell, 18 Iwan Twigg, 19 Owen Jones, 20 Harry McBryde, 21 Josh Thomas, 22 Bradley Roderick, 23 Liam Cox