
Yma yn y Scarlets ry’n ni’n ymfalchïo yn y gwaith ry’n ni’n ei wneud yn y rhanbarth nid yn unig gyda’r clybiau cymunedol ond hefyd gydag ysgolion, colegau, elusennau a sefydliadau eraill.
Ychydig wythnosau’n ôl fe aeth Wyn Jones a Steff Hughes draw i Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llwynhendy i ymweld â Chlwb Campau’r Ddraig yr ysgol. Fel rhan o’r ymweliad cymrodd y ddau rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
Hoffwn estyn diolch mawr i’r ysgol a’r disgyblion am y gwahoddiad a’r croeso, gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r profiad ac edrychwn ymlaen i’ch gweld yn fuan ym Mharc y Scarlets.
Os hoffech chi weld rhai o’r chwaraewyr yn eich hysgol, clwb neu sefydliad ebostiwch chris@scarlets.walesam wybodaeth pellach.