Y Dreigiau yn cipio’r fuddugoliaeth oddi’r Scarlets d18

Rob Lloyd Newyddion, Newyddion yr Academi

Chwaraeodd tîm d18 y Scarlets ei gêm golledig cyntaf o’r ymgyrch gradd oedran pan ddaeth y Dreigiau draw i Barc y Scarlets a gadael yn fuddugol o 15-14 gyda throbwynt hwyr yn y gwynt a’r glaw.

Roedd y tîm cartref, yn chwarae ei gêm gystadleuol cyntaf ers dros flwyddyn, ar y blaen o 7-5 ar yr hanner gyda chais o’r chwaraewr ail-reng Evan Sheldon, a’r trosiad gan Osian Evans wedi ymestyn y sgôr yn dilyn cais cynnar gan ganolwr y Dreigiau Oli Andrew.

Derbyniodd y reng-olwr Caleb Salmon cerdyn melyn yn gynnar yn ystod yr ail hanner ond y Scarlets yn dal eu tir gyda 14 dyn a pan ddychwelodd y blaenwr o Sir Benfro i’r cae, roedd y tîm cartref yn dathlu’r ail gais a hon gan yr eilydd Tom Zoogah gan ddangos ei gryfder i groesi.

Yr eilydd Tal Rees yn llwyddo gyda’r trosiad i wthio’r Scarlets i mewn i’r blaen o 14-5, ond y Dreigiau yn ymladd yn ôl â chais gan Gruff Davies a throsiad yn rhoi’r hwb iddyn nhw cyn i’r maswr Sam Berry cicio gôl adlam i ennill y gêm.