Scarlets yn rhyddhau’r ddraig!!

Gwenan Newyddion

Mae’r Scarlets yn tanio i mewn i dymor 2021-22 gyda dyluniad adain ddraig wedi’i addurno ar eu crysau cartref ac oddi cartref newydd.

Cafodd y cit gan Macron eu datgelu ar ddydd Iau sydd yn arddangos y coch traddodiadol ar y cit cartref gyda’r cit oddi cartref mewn lliw llwyd â trim coch.

Mae dyluniad cit cartref y Scarlets yn parhau i gadw traddodiadau cryf y clwb, gyda trim gwyn ar y coler a’r llawes. Mae logo’r cwmni Eidaleg Macron Hero yn ymddangos ar y crys ar y fron dde gyda’r ddraig Scarlet ar y fron chwith, yn agos at y galon. Mae blaen y crys yn cynnwys print aruchel o adenydd draig, tra bod y dyluniad tôn-ar-dôn i lawr ochrau’r crys yn ymgorffori cyfres o ddiemwntau, gyda’r llythrennau SCARLETS wedi’u gosod y tu mewn.

Ar un ochr i bob crys mae ‘Sosban’ – arwyddlun eiconig y Scarlets – ac ar yr ochr arall mae logo Parc y Scarlets, cartref y Scarlets.

Mae’r crysau wedi’u chreu gyda defnydd Armevo a Bodytex sydd yn caniatáu ysgafnder, a chryfder yn ogystal â defnydd cyfforddus wrth chwarae.

Olew dros Gymru fydd ein brif bartner ar flaen y crys eto eleni, ac mae’r Scarlets yn ddiolchgar iawn o gefnogaeth barhaus Prifysgol Abertawe, Owens Group, Gravells, LBS, Lloyd & Gravell, Castell Howell, Zipworld UK, Dyfed Steel, Coleg Sir Gar a Pencnwc Holiday Park fel partneriaid cit. Mae logo High Speed Transfer (HST) yn newydd ar ein cit am y tymor yma.

Bydd Prifysgol Aberystwyth, John Francis, TAD, CK Supermarkets a’n partneriaid newydd Brickability a Taylor Landscapes yn ymddangos ar ein siorts chwarae.

Dywedodd Pennaeth Masnachol y Scarlets James Bibby: “Diolch enfawr unwaith eto i’n partneriaid ffyddlon, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn, yn fwy nawr nag erioed o’r blaen wrth i ni edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr nôl i’r stadiwm. Croeso cynnes i’r partneriaid newydd sydd wedi ein hymuno’r tymor yma.

“Roeddem am gynnal coch traddodiadol y Scarlets ar gyfer ein crys cartref ac rydym yn siŵr y bydd ein cefnogwyr yn hoffi’r crys llwyd oddi cartref hefyd.”

Bydd y cit newydd ar gael ar-lein https://scarletsmacronshop.com ac yn y siop o ddydd Iau am 1yp.

Bydd y tîm yn gwisgo’r cit newydd am ein gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn, Medi 25.