Patch wrth ei fodd i ddychwelyd gyda buddugoliaeth yn Rodney Parade

Rob Lloyd Newyddion

Mae Rhys Patchell wedi sôn o’i hyfrydwch wrth ddychwelyd o’i anaf gyda buddugoliaeth yn erbyn tîm A y Dreigiau ar Nos Wener.

Chwaraeodd Patchell 60 munud yn Rodney Parade yn ystod ei ymddangosiad cyntaf mewn dros blwyddyn, gan gynorthwyo Ryan Conbeer gyda’r ddau gais.

“Roedd hi’n neis cael chwarae ac yn neis i fod yn chwaraewr rygbi eto,” dywedodd y maswr ar ôl y fuddugoliaeth 29-10.

“Eisteddais am gwpl o funudau ar ôl dod oddi ar y cae i gael amser i fy hun, a meddwl ‘ie, fi nôl a fi’n hapus’. Nid nôl o ran perfformiad ond nôl o ran cael fy ymddangosiad cyntaf ar ôl yr anaf.

“Mae’r bois sydd wedi bod mas o’r gêm – Ellis Jenkins a Gareth Anscombe – wedi sôn am werthfawrogi’r pethau bach yn fwy, fel gyrru i mewn i’r stadiwm a teimlo’r nyrfs cyn y gêm ychydig yn fwy nag arfer.

“Mae fy nghorff yn brifo ychydig ond mae hynny’n iawn. Rwy’n falch i gael yr amser ar y cae.

“Nad oeddwn yn rhedeg ar fy ngore’ erbyn diwedd y 60 munud, ond dw i wedi ailddechrau a dyna sy’n bwysig ac yn rhywbeth i adeiladu arno.

“Cawn weld beth fydd yr hyfforddwyr eisiau gwneud ar gyfer wythnos nesaf.”

Gan edrych nôl ar y fuddugoliaeth, fe ychwanegodd y chwaraewr rhyngwladol: “Roedd sawl chwaraewr ifanc yn gwisgo’r crys am y tro cyntaf. Roedd sawl peth i weithio ar, ond pan fyddwn yn adolygu’r gêm rwy’n siwr fydd yna sawl agwedd bositif i ffocysu ar hefyd.”