Pecynnau Blwch

Image

Mae pecynnau lletygarwch y Scarlets yn cynnig profiad o’r radd uchaf i chi fwynhau gyda’ch gwesteion, teulu a ffrindiau. Mae yna ystod eang o becynnau lletygarwch ar gael gyda rhywbeth at ddant pawb. Mae ein pecynnau lletygarwch yn gweddu i’r cyffro a’r awyrgylch deinamig.

Aelodaeth Clwb Busnes

Mae gan brofiad diwrnod gêm y Scarlets enw da iawn am fod yn un o'r profiadau chwaraeon mwyaf cofiadwy a phleserus yng Nghymru. Rydym yn cyfuno brand ac arddull rygbi y Scarlets ar y cae gyda phrofiad arbennig yn ein Lolfa Quinnell. Mae’n le gwych i rhwydweithio ac ymlacio.

Mae Aelodaeth Clwb Busnes First Choice Flooring yn cyfuno awyrgyclh a chyffro diwrnod rygbi â chysur ein cyfleusterau lletygarwch blaenllaw. P'un a ydych am greu argraffu ar eich cleientiaid presennol neu ddarpar gleientiaid, neu dreulio amser gyda'ch teulu a'ch ffrindiau, rydych chi'n siwr o gael profiad cadarnhaol iawn.

Mae’n fwy na lletygarwch o’r radd flaenaf, mae’n ddiwrnod arbennig. Dyma gyfle i chi ryngweithio â chefnogwyr rygbi tebyg a phobl sy’n gwneud penderfyniadau ar draws ystod eang o sectorau.

I ddeall y manteision sy'n gysylltiedig â dod yn Aelod Clwb Busnes First Choice Flooring, cysylltwch â'r Tîm Masnachol ar 01554 783944.

Blychau Lletygarwch

Cyfle i chi brofi diwrnod arbennig mewn steil a defnydd personol o flwch lletygarwch ym Mharc y Scarlets.

Ymlaciwch cyn y gêm gyda phryd o fwyd tri chwrs cyn symud i’ch sedd tu allan i’r blwch lletygarwch yn barod ar gyfer y gic gyntaf. Gyda phymtheg blwch wedi eu henwi ar ôl rhai o arwyr Llanelli a’r Scarlets ry’n ni’n falch iawn o arddangos ein treftadaeth; mae pob blwch yn le perffaith i ddod a’ch gwesteion neu i fwynhau dathliad gyda theulu a ffrindiau.

Pecynnau Blwch Lletygarwch

  • Ar gael i 10 i 12 o westeion
  • Mynediad i Flwch Lletygarwch am ddwy awr cyn y gic gyntaf ac hyd at 2 awr wedi’r chwiban olaf
  • Balconi preifat tu allan i’ch blwch gyda deg sedd sy’n cynnig golygfa arbennig o’r cae
  • Pryd o fwyd tri chwrs wedi ei weini cyn y gêm a lluniaeth ysgafn ar ôl y gêm
  • Bar talu yn y Blwch
  • Rhaglen swyddogol i bob un o’ch gwesteion
  • WiFi am ddim
  • Teledu Sky a BT Sport yn y Blwch
  • 2 le parcio ochr draw i’r stadiwm
  • Staff lletygarwch i’ch cynorthwyo chi a’ch gwesteion trwy gydol y dydd

SUT ALLWN NI EICH HELPU?

NAWDD

I ddarganfod sut y gall eich busnes fanteisio ar bartneriaeth nawdd gyda'r Scarlets, cysylltwch drwy ffonio 01554 783944 neu e-bostiwch [email protected]

HYSBYSEBU

Am restr o'r cyfleoedd hysbysebu sydd ar gael, cysylltwch a gallwn drafod eich gofynion personol, ffoniwch 01554 783944 neu e-bostiwch [email protected]

LLETYGARWCH DIWRNOD GÊM

Os hoffech mwy o wybodaeth neu i archebu un o'n pecynnau arbennig, ffoniwch 01554 783944 neu e-bostwich [email protected]

CYFLEUSTERAU

Stadiwm Parc y Scarlets yw un o leoliadau gorau ar gyfer cyfarfodydd a digywddiadau yng Ngorllewin Cymru, darganfyddwch mwy am gynedleddau, ciniawau, priodasau a phartïon Nadolig, ffoniwch 01554 783939 neu e-bostwich [email protected]