Mae’r Scarlets wedi cadarnhau mai Nigel Davies bydd Cyfarwyddwr Rygbi’r Scarlets am y ddau dymor nesaf, gyda’r cyn Scarlet a chwaraewr Cymru i arwain y tîm mewn pennod newydd.
Dychwelodd Davies i’r clwb ym mis Ionawr ar gyfnod dros-dro ac mae wedi goruchwylio adolygiad o strwythurau rygbi’r clwb gan osod sylfaeni ar gyfer cyfnod nesaf o ddatblygiad hir-dymor y clwb.
Dros y pum mis diwethaf, mae Davies wedi datblygu strategaeth perfformiad rygbi, wedi cryfhau’r tîm hyfforddi, ail strwythup’r garfan ac alinio rhaglenni perfformiad athletaidd, dadansoddi, meddygol a datblygu chwaraewyr i greu amgylchedd elît ar gyfer llwyddiant parhaol.
Mae Nigel Davies yn dod â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o rygbi elitaidd ac arweinyddiaeth perfformiad uchel gan gynnwys datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr rhyngwladol ac wedi’i gefnogi gan brofiad mewn ymgynghoriaeth a thrawsnewid busnes byd-eang.
Yn rôl y Cyfarwyddwr Rygbi, bydd gan Davies gyfrifoldeb dros rhaglen rygbi’r Scarlets, gan arwain ar holl agweddau perfformiad, hyfforddi, dewis a dethol timay a datblygiad chwaraewyr.
Dywedodd Nigel Davies fod derbyn y rôl yn barhaol yn fraint ac yn gyfrifoldeb.
“Mae’n anodd mynegi mewn geiriau beth mae’r clwb hwn yn ei olygu i mi. Mae’r Scarlets wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers dros ddeugain mlynedd ac mae cael y cyfle i arwain y rhaglen rygbi ar adeg mor bwysig yn hanes y clwb yn rhywbeth rwy’n hynod falch o’i wneud.
“Dros y pum mis diwethaf, fel grŵp hyfforddi, rydym wedi manteisio ar y cyfle i herio ein hunain yn onest ac adeiladu rhaglen yr ydym yn credu y gall ddarparu sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi gweithio’n galed i gryfhau’r grŵp chwarae, cryfhau’r tîm hyfforddi a sicrhau bod aliniad clir ar draws pob agwedd ar y rhaglen rygbi.
“Dim ond y dechrau yw’r gwaith yna. Rydym yn deall yr heriau sydd o’n blaenau ac rydym yn deall y disgwyliadau sy’n dod gyda chynrychioli’r clwb hwn. Fodd bynnag, rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym grŵp o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff sydd wedi ymrwymo i adeiladu rhywbeth y gall ein cefnogwyr gredu ynddo a bod yn falch ohono.”

“Yr hyn sydd wastad wedi gwneud y Scarlets yn arbennig yw ei fod yn cynrychioli llawer mwy na dim ond tîm rygbi. Mae ein clwb yn cynrychioli ac yn cysylltu â chymunedau gorllewin Cymru, ein hanes fel clwb a rhanbarth, ein cefnogwyr ac arddull o rygbi y mae pobl ar draws y byd rygbi yn ei gydnabod a’i barchu.
“Ein cyfrifoldeb nawr yw adeiladu amgylchedd a diwylliant tîm yma ym Mharc y Scarlets sy’n adlewyrchu’r gwerthoedd hynny bob dydd ac yn darparu perfformiadau cystadleuol a chyson y gall ein cefnogwyr, ein rhanddeiliaid a’r grŵp rygbi Scarlets hwn fod yn falch ohonynt.
“Rydym yn hynod ffodus bod ein cartref, Parc y Scarlets, fel un o brif gyfleusterau rygbi yn y Deyrnas Unedig yn ein galluogi i wneud hynny.
“Rwy’n gyffrous ac yn llawn cymhelliant am y daith sydd o’n blaenau. Rydym wedi llunio grŵp talentog ac ymroddedig o chwaraewyr a staff ac rwy’n credu’n wirioneddol fod cyfle enfawr i ni symud y clwb hwn ymlaen gyda’n gilydd.”
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets, bod Davies wedi gwneud argraff sylweddol yn barod ers dychwelyd i’r clwb a bod Bwrdd y Scarlets yn gwbwl gefnogol o’i adolygiad strategaethol.
Ychwanegodd: “Mae penodiad Nigel yn darparu parhad, eglurhad ac arweinyddiaeth ar adeg hollbwysig i’r Scarlets a rygbi proffesiynol yng Nghymru.
“Ers dychwelyd i’r clwb yn gynharach eleni, mae Nigel wedi arwain adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen rygbi ac wedi gweithio’n ddiflino i sefydlu cyfeiriad strategol clir ar gyfer y dyfodol a gyflwynodd i’n Bwrdd. Rhoddodd ansawdd y gwaith a wnaed dros y pum mis diwethaf, ynghyd â dyfnder ei brofiad, ei ddealltwriaeth o’r Scarlets a’r gêm yng Nghymru, hyder mawr inni mai ef oedd y person cywir i arwain y cam nesaf hwn o’n datblygiad.”
“Mae Nigel yn deall yn well na’r rhan fwyaf beth mae’r clwb hwn yn ei olygu i’n cefnogwyr a’n cymunedau. Mae momentwm wirioneddol, positifrwydd ac egni’n cwmpasu’r Scarlets a phawb sy’n cefnogi’r clwb, ac ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r tymor newydd.”
Bydd Davies yn arwain y Scarlets i mewn i dymor 2026-27 gyda chefnogaeth tîm hyfforddi a pherfformio cryfach a charfan chwarae sy’n cyfuno perfformwyr rhyngwladol profiadol â rhai o’r dalentau ifanc mwyaf cyffrous yn rygbi Cymru.
Dychwelodd y garfan i Barc y Scarlets wythnos yma i ddechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer y tymor newydd, gyda mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf wrth i’r clwb barhau i adeiladu at ymgyrch 2026-27.
