Cwestiynau Cyffredin
Mae Tocynnau Tymor y Scarlets ar werth o ddydd Llun 20 Ebrill, 2026.
Oes, mae prisiau cynnar ar gael i’r rheini ohonoch sy’n adnewyddu tocyn tymor a chwsmeriaid newydd.
Fe fydd y prisiau cynnar yn dod i ben ddydd Sul 7 Mehefin, 2026.
Bydd, fe fydd ffi archebu o £5 y tocyn wrth adnewyddu neu brynu Tocyn Tymor.
Fe fydd eich sedd yn ddiogel trwy gydol y cyfnod prisiau cynnar, ac fe fydd yn ddiogel ddydd Gwener 29 Mai. Ar ôl y cyfnod hynny nid yw’n bosib i ni gadarnhau y bydd eich sedd ar gael, oherwydd fe fydd pob sedd wag yn mynd ar arwerthiant cyhoeddus.
Fe fydd eich Tocyn Tymor yn cynnwys holl gemau Pencampwriaeth Rygbi Unedig a gemau grŵp Ewropeaidd. Nid yw’n cynnwys gemau ail gyfle URC na EPCR na gemau cyfeillgar. Mae hyn yn gyfystyr ag 11 gêm gartref.
Mae Tocyn Tymor pris cynnar oedolion yn dechrau am £180 yn y Safle Sefyll a £230 yn y seddau safonol. Mae’r prisiau yn ddibynnol ar y lleoliad ym Mharc y Scarlets ac mae tocynnau teulu ar gael hefyd.
Ydy, mae’n bosib talu am Docyn Tymor gyda Debyd Uniongyrchol. I gymryd mantais o’r cynllun talu chwe mis diweddarwch manylion eich cyfrif a chadarnhau eich bod am adnewyddu /prynu eich tocyn tymor yma erbyn Mai 15. Fe fydd angen talu’r taliad cyntaf ddydd Llun 1 Mehefin, 2026.
Oes, mae cost o £8 i dalu trwy Debyg Uniongyrchol.
Rydym yn annog cynifer o ddalwyr Tocyn Tymor â phosib i symud i system digidol a chael Tocyn Tymor digidol. Os hoffech gerdyn newydd fe fydd cost o £5. Ni fydd cardiau 2025-26 yn ddilys ar ôl diweddglo’r tymor presennol.
Fe allwch dalu arlein gyda cherdyn debyd neu credyd, neu fe allwch gysylltu â’r swyddfa docynnau os hoffech dalu trwy Debyd Uniongyrchol neu arian parod.
Ydych! Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 2026-27 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2026-27, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn credyd gwerth £20 ar eich cyfrif tocynnau. Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd
- fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
- heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
- dros 16 mlwydd oed
Oes! Yn ogystal â chael mynediad i 11 gêm gartref ym Mharc y Scarlets, fe fydd Tocyn Tymor 2026-27 yn cynnwys nifer o fuddianau unigryw.
Mae buddianau Tocyn Tymor 2026-27 yn cynnwys;
- 9 gêm cartref ym Mharc y Scarlets yn nhymor arferol URC
- 2 gêm grŵp Ewropeaidd ym Mharc y Scarlets
- Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle ym Mharc y Scarlets cyn gwerthiant cyhoeddus
- Mynediad am ddim i gemau graddau oed y Scarlets yn ysgol tymor 2026/27
- Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2026/27
- Gostynigad oddi ar fwyd a diod ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gêm y Scarlets
- Tocynnau gostyngedig ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, gemau i’w cadarnhau
- Gostyngiadau yn siop VX3
- Aelodaeth am ddim i Crys16
Mae’n bosib uwchraddio eich tocyn tymor i dderbyn buddianau ychwanegol ac eistedd yn agosach i’r cynnwrf. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 am wybodaeth pellach neu drafod eich opsiynau.
Rydyn ni'n symud at system electronig er mwyn torri lawr ar ein defnydd o blasig. Os hoffech gerdyn tocyn tymor fe fydd angen talu ffi o £5. Fe fydd y cardiau yn barod i'w casglu cyn ein gêm gyntaf.
Fe allwch brynu tocyn oedolyn a ieuenctid yn rhan fwyaf o ardaloedd y stadiwm. Mae prisiau ieuenctid yn dechrau am gynlleied â £10 am y tymor.
Nid oes angen Tocyn Tymor ar blant o dan mlwydd oed. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 os oes angen sedd ychwanegol.
Oes, mae yna Docyn Tymor i oedolion ifanc rhwng 16 a 22 mlwydd oed ond fe fydd yn rhaid i chi rhannu dyddiad geni wrth brynu tocyn tymor.
Oes! Mae’r tocyn ‘Sosban’ newydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr newydd ddod yn ddaliwr tocyn tymor am bris cychwynol arbennig o £149 (Pris Cynnar). Mae’r pecyn yn gyfredol am un tymor yn unig gyda’r opsiwn o symud i gategori gwahanol yn yr ail dymor.
Mae’ch rhif wedi ei nodi fel ‘Client Ref’ ar docynnau tymor. Os oes angen cymorth ychwanegol, cysylltwch â’r swyddfa docynnau.
Mae enwau’r blociau wedi newid (e.e. mae N27 bellach yn N11) wrth i ni symleiddio map y stadiwm. Nid yw hyn fodd bynnag wedi gwneud dim newid i’ch sedd presennol.
Os hoffech ddiweddaru eich manylion personol, ac yn methu cael mynediad i’ch cyfrif ar y wefan docynnau, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39.