Mae Richard Whiffin wedi enwi tîm dan 19 Cymru i herio Lloegr yn Ystrad Mynach yfory (3pm).
Cerrig Smith o’r Dreigiau fydd yn arwain y Cymry – sy’n cynnwys saith o chwaraewyr sy’n chwarae eu rygbi yn Lloegr a thri arall sy’n dechrau ar y fainc hefyd.
Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’r gemau yn erbyn y Saeson wastad yn heriol a bydd wynebu’r ‘Hen Elyn’ yn rhoi tân ychwanegol ym moliau’r bechgyn. “Mae hi wedi bod yn wythnos fer i ni o safbwynt paratoi gyda’n gilydd i wynebu Lloegr ond mae’r ymarfer wedi bod yn gystadleuol a dwys. Dyma’r cyfle olaf i nifer o’r bois i hawlio’u lle yn y garfan ar gyfer y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
“Bydd y ffaith bod cymaint o’r bechgyn o’r ddau dîm yn adnabod ei gilydd yn dda yn rhoi awch ychwanegol i’r ornest. “Hoffwn ddiolch i glybiau Lloegr am ryddhau nifer o’n chwaraewyr ar gyfer y gêm hon gan ei bod yn bwysig o safbwynt ein paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Mae pob aelod o’n carfan yn gwybod yn iawn ein bod wedi bod yn cadw llygad barcud ar eu datblygiad trwy gydol y flwyddyn – ond does dim yn well na gweld y bois yn chwarae mewn gêm hynod gystadleuol ar y llwyfan rhyngwladol.”
15 Rhys Cummings (Cardiff Rugby); 14 Rhys Cole (Dragons), 13 Bailey Cutts (Cardiff Rugby), 12 Jack Hoskins (Ospreys), 11 Dylan Scott (Cardiff Met); 10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets), 9 Luca Woodyatt (Gloucester Rugby); 1 George Leyland (Bristol Bears), 2 Oscar Thomas (Bath Rugby), 3 Isaac Godfrey (Exeter Chiefs), 4 Osian Williams (Bristol Bears), 5 Luke Evans (Bristol Bears), 6 Cerrig Smith (Dragons – Capt), 7 Sam Morgan (Ospreys), 8 Alex Ridgeway (Bath Rugby).
Eilyddion 16 Evan Gallagher (Bath Rugby), 17 Hudson Nevin (Scarlets), 18 Nathan Davies (Dragons), 19 Gabe Williams (Cardiff Rugby), 20 Tiehi Chatham (Dragons), 21 Alfie Thomas (Ospreys), 22 Carter Pritchard (Dragons), 23 Steff Jac Jones (Scarlets), 24 Jack Harrison (Bath Rugby), 25 Morgan Carter (Dragons), 26 Noah Morgan (Dragons), 27 Tomos Evans (Gloucester).
