Dim ond 30 diwrnod sydd i fynd tan i ni wynebu Connacht ym Mharc y Scarlets yn rownd chwech Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.
Mae wastad yn gêm a hanner rhwng tîm gorllewin Cymru a gorllewin Iwerddon a mae disgwyl gweld llond lle o geisiau unwaith eto.
Fe fydd y gêm yn dechrau am 5.15pm Sadwrn, Rhagfyr 5 a hwn bydd ein gêm olaf cyn y Nadolig, felly fe fydd yna ddigonedd o hwyl yr wyl!
Yn ogystal â’ch hoff fwyd, diod a cherddoriaeth Nadoligaidd, ry’n ni’n annog pawb i wisgo siwmper Nadolig hefyd.
Fe fydd ein siwmperi Nadolig yn siop VX3 cyn bo hir.
Mae tocynnau i’r gêm yn erbyn Connacht ar gael nawr am bris rhatach, prynnwch YMA.
