Mae prop y Scarlets Alec Hepburn wedi’i alw i mewn i garfan yr Alban o flaen eu gêm diwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar ddydd Sadwrn.
Mae’r prop pen rhydd profiadol, sydd â chwe chap i’w enw, yn dychwelyd i’r tîm rhyngwladol ar ôl bod yn rhan o gêm tîm A yn erbyn yr Eidal ar ddechrau’r ymgyrch.
Bydd yr Alban heb Gregor Brown (coes), Scott Cummings (llinyn y gar), Adam Hastings (ysgwydd), Nathan McBeth (pigwrn), Elliot Millar Mills (groin) a Duhan van der Merwe (pigwrn), ac maent wedi eu rhyddhau yn ôl i’w clybiau am asesiadau pellach.
