Ar ben dy hun? Mae’r gêm ddarbi fawr yn galw

GwenanNewyddion

Poeni bod angen grwp ohono chi i fwynhau’r gêm ddarbi? Meddyliwch eto. Mae seddau unigol ar gael ar gyfer gêm y Scarlets yn erbyn y Gweilch ar Wyl San Steffan, a dyma dy gyfle di i fod yn rhan o un o gemau mwya’r tymor, boed yn dod ar ben dy hun neu gyda dy ffrindiau.

Nid gêm yn unig yw hon. Dyma’r Scarlets yn erbyn y Gweilch. Cyfle i wynebu’r gelyn o ochr draw i Bont Llwchwr. Nid o’r soffa y dylid gwylio’r gêm yma.

Paid â phoeni am ddod ar ben dy hun – fe ddei chi o hyd i dy bobl!

Mae rhai o brofiadau gorau diwrnod gêm yn dechrau gydag un sedd. Eistedda drws nesa’ i’r cefnogwyr pennaf, dechreua sgwrs, rhannwch yr eiliadau arbennig, y drama – ac efallai y gwnei di adael wedi gwneud ffrindiau newydd.

Cymuned. Dyna sy’n gwneud rygbi. Wrth gymryd dy sedd ym Mharc y Scarlets ar wyl San Steffan, ni fyddi di ar ben dy hun – fe fyddi di’n rhan o’r dorf, yn rhan o’r swn, yn rhan o’r stori.

Darbi fawr. Awyrgylch hyd yn oed yn fwy

Mae rhywbeth arbennig am rygbi ar Wyl San Steffan. Hwyl yr wyl. Y tensiwn yn yr aer wrth i’r ddau dîm fynd wyneb yn wyneb. Mae’r gêm ddarbi yn gyffrous.

Atogfion sy’n byw’n y cof am flynyddoedd.

Seddau unigol ar gael nawr

Efallai bod tocynnau grwp yn gwethu’n gyflym, ond mae seddau unigol ar gael o hyd. Mae dal amser i ti fod yn rhan o’r cyffro.

Does dim angen poeni am wneud trefniadau gyda phobl eraill. Dim aros i ffrindiau gyrraedd. Ti, yr holl hwyl a’r cyffro, ac un o gemau mwya’r tymor.

Paid a cholli’r gêm ddarbi fawr 

Der i fwynhau’r rygbi. Arhosa am yr awyrgylch. Cer o ‘ma gyda phrofiadau ac atogfion newydd, ac efallai ffrind neu ddau newydd!

Mae tocynnau ar gael yma