Mae Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dychlweyd i Barc y Scarlets, a gêm fawr yn erbyn yr hen elyn o ochr arall i Glawdd Offa!
Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod am y gêm ar Barc y Scarlets wrth i Bristol Bears ymweld.
Pryd mae’r gic gyntaf?
Fe fydd y gêm yn dechrau am 20:00
Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 12 o’r gloch. BPrynnwch eich tocynnau yma
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydyd, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma
Fe fydd stondin VX3 yn Arena FSG cyn y gic gyntaf hefyd.
Ble sydd orau i barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
- Gatiau’n agor am 17:00
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Fe fydd y meysydd parcio yn brysur felly dewch yn gynnar er mwyn sicrhau bod digon o amser gyda chi.
Oes gwasanaeth bws?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 22:20.

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Ydyn, ond nad ydyn ni’n derbyn hen bapurau £50 a £20.
Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?
- 17:30 Lolfa Strade Lounge ar agor ar gyfer dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade. Gallwch brynu lluniaeth ysgafn.
- 17:45 Bar Tanner Banc ar agor
- 18:00 Mynediad i westeion lletygarwch
- 19:00 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd
Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Mae digon o bethau yn digwydd yn Arena FSG cyn y gêm felly gallwch mewn i gael blas o’r hwyl.
Fe fydd FSG Arena yn agor am 18:00
- Ymweliad gan chwaraewyr (18:30)
- Cestyll bownsio
- Gemau hwyl
- Paentio wynebau
- Siop VX3 y Scarlets
- Rygbi TAG
- Cochyn
19:30 Set gan DJ Gnasher wrth ochr y cae
Mae DJ Gnasher yn DJ ifanc ar y sîn Gymraeg. Mae wedi chwarae ddwywaith yng ngwyl In It Together Festival, gwyl Big Sleepover, ac wedi perfformio gyda Josh Navidi a Ntrance yn 2025. Mae e’n siwr o gael y dorf wedi cynhesu!
19:15 Côr y Scarlets yn perfformio yn Eisteddle’r De
Ble allaf brynu tocyn 50-50?
Fe fydd gwerthwyr yn crywdro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Beth sy’n digwydd hanner amser?
Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser
- Pontiets dan 8, Rhydaman dan 8
- Rhydaman dan 8
Cyhoeddi enillydd raffl 50-50
Beth am ar ôl y gêm?
Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’.
Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?
Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;
Timau croeso ar y gic gyntaf
- Tregwyr dan 13
Chwifio baneri
- Pontiets dan 8 a dan 11
- Rhydaman dan 8
- Hwlffordd dan 14
Cerdded i’r cae gyda chwaraewyr
- Merched Mynydd Mawr dan 8 a dan 12
Pwy yw’r mascots?
Evan Matthews
Oed: 10
Hoff Chwaraewr: Taine Plumtree
Ysgol: Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd
Jack Matthews
Oed: 8
Hoff Chwaraewr: Tom Rogers
Ysgol: Ysgol Gynradd Marlborough, Caerdydd
Clwb: Clwb Rygbi Llanishen dan 8
