Mae’r gêm fawr wedi cyrraedd! Dyma’r gêm ddarbi fawr ac mae disgwyl torf mawr.
Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.
Pryd mae’r gic gyntaf?
Fe fydd y gêm yn dechrau am 17:30
Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 12 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydyd, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma
Fe fydd stondin VX3 yn Arena FSG cyn y gic gyntaf hefyd.
Ble sydd orau i barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
- Gatiau’n agor am 12:00
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Fe fydd y meysydd parcio yn brysur felly dewch yn gynnar er mwyn sicrhau bod digon o amser gyda chi.
Oes gwasanaeth bws?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Mae gwasanaeth o Landeilo ar gyfer y gêm yma hefyd. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 21:00.


Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Ydyn, ond nad ydyn ni’n derbyn hen bapurau £50 a £20.
Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?
- 14:30 Pentref Cefnogwyr FSG ar agor
- 14:30 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
- 14:30 Bar Tanner Banc ar agor
- 14:30 Lolfa Quinnell ar agor
- 15:00 Blychau lletygarwch ar agor
- 15:30 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
- 15:30 Lolfa Heineken ar agor
- 16:00 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd
Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Mae digon o bethau yn digwydd yn Arena FSG cyn y gêm felly gallwch mewn i gael blas o’r hwyl.
- Fe fydd FSG Arena yn agor am 14:30
- Cestyll bownsio
- Gemau hwyl
- Paentio wynebau
- Siop VX3 y Scarlets
- Rygbi TAG
- Cochyn
Ble allaf brynu tocyn 50-50?
Fe fydd gwerthwyr yn crywdro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Gallwch hefyd brynu ar y we yma
Beth sy’n digwydd hanner amser?
Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser
- Cefneithin dan 7, dan 8 & dan 9
- San Clêr dan 7, dan 8 & dan 9
- Crwydriaid Llanelli dan 10
- Felinfoel dan10
Cyhoeddi enillydd raffl 50-50
Beth am ar ôl y gêm?
Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’.
Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?
Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;
Timau croeso ar y gic gyntaf
- Cefneithin dan 7
- Felinfoel dan10
Chwifio baneri
- Y Tymbl dan 11 & dan 12
- Cefneithin dan 8 & dan 9
- San Clêr dan 7, dan 8, dan 9 a dan 10
- Crwydriaid Llanelli dan 10
Cerdded i’r cae gyda chwaraewyr
- Y Tymbl dan 7 a dan 8
- De Gwyr dan 12
Pwy yw’r mascot?
Guto Alun Edwards
Oed: 6
Ysgol: Ysgol Bro Preseli
Clwb: Clwb Rygbi Crymych
Hoff Chwaraewr: Macs Page
