Byddwn ni’n ôl ym Mharc y Scarlets prynhawn Sadwrn 18 Ebrill wrth i ni groesawu Rygbi Caerdydd yn Rownd 15 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.
Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.
Pryd mae’r gic gyntaf?
Fe fydd y gêm yn dechrau am 17:30
Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 9 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydy, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Fe fydd y siop symudol tu allan i Arena FSG hefyd. Gallwch weld yr eitemau yma
Ble sydd orau i barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
- Gatiau’n agor am 10:30
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Oes gwasanaeth bws?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 21:30.
Gallwch archebu eich tocyn bws yma

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Ydyn, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.
Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?
- 14:30 Arena FSG ar agor
- 14:30 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
- 14:30 Bar Tanner Banc ar agor
- 14:30 Blychau lletygarwch ar agor
- 15:00 Lolfa Quinnell ar agor
- 15:00 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
- 16:30 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd
Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Bydd 40 tîm ieuenctid o bob cwr o’r rhanbarth yn cymryd rhan yng ngwyl rygbi Sefydliad Cymunedol y Scarlets ar y cae hyfforddi o 12:00.

Fe fydd stondin bwyd a diod wrth y cae hyfforddi i chi brynu lluniaeth yn ystod yr wyl.
Fe fydd y timau canlynol yn cymryd rhan:
- Cefneithin dan 7, dan 9
- Llangennech dan 7, dan 10
- Crwdyriaid Llanelli dan 7, dan 8
- Porth Tywyn dan 7, dan 9, dan 10
- Cydweli dan 7, dan 8, dan 9, dan 11
- Arberth dan 7, dan 8
- Castellnewydd Emlyn dan 7, dan 8, dan 9
- Felinfoel dan 7, dan 8, dan 9, dan 10, dan 11
- Quins Caerfyrddin dan 8
- Dinbych y Pysgod dan 9
- Penfro dan 9
- Pontyberem dan 10
- Bradford on Avon dan 11
- Y Bontfaen dan 11
- Cambrian dan 11
- Harlequins Doc Penfro dan 11
- Athletic Caerfyrddin dan 11
Fe fydd Arena FSG yn llawn bwrlwm gyda’ch hoff weithgareddau gan gynnwys castell bownsio, Tarw Tanllyd, DJ, gemau dawns a disgo, Cochyn, cyfarfod y chwaraewyr.
Gwnewch yn siwr eich bod chi’n ymuno yn hwyl y gorllewin gwyllt gan dynnu llun gyda’r fframiau ger Arena FSG. Tagiwch ni ar y sianeli cymdeithasol gyda #wildwestisbest i gael cyfle i ennill tocynnau i gêm Scarlets v Dreigiau.
Fe fydd Lauren Fisher yn canu eich hoff ganeuon gwlad tu allan i Arena FSG o 16:15.

Bydd opsiynau bwyd a diod ychwanegol tu allan i’r Arena hefyd a digon o le i chi ymlacio a mwynhau’r awyrgylch.
Fe fydd y Tanner Banc ar agor cyn y gêm i chi gyfarfod eich ffrindiau.
Am 17:00 bydd Côr y Scarlets a Chôr Rygbi Caerdydd yn canu wrth ochr y cae, felly gwnewch yn siwr eich bod chi yn eich sedd yn gynnar.
Gallwch wylio gêm Fidelity Securedrive Lions a Glasgow Warriors ar y sgriniau teledu yn y Tanner Banc ac yn y lolfeydd lletygarwch.
Ble allaf brynu tocyn 50-50?
Fe fydd gwerthwyr yn crwydro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Gallwch hefyd brynu ar y we yma
Beth sy’n digwydd hanner amser?
Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser
- Beddau D9
- Cefneithin D8
- Felinfoel D7
- Llanidloes D7, D8, D9, D10, D11
- Crymych D7
Fe fyddwn ni’n cyhoeddi enillydd y raffl 50-50.
Beth am ar ôl y gêm?
Ewch draw i Far Tanner Banc i fwynhau cerddoriaeth byd gan Strung Together.
Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?
Fe fydd timau’r wyl yn cymryd rhan mewn gorymdaith o amgylch y cae. Hoffwn gynnig croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni hefyd;
- Ballina RFC
- Barry D15, Ieuenctid
- Little Eagles
- Rhuthun D11, D12
Pwy yw’r mascot?
Enw: Bowen Davies
Oed: 6
Ysgol: Ysgol y Dderwen
Clwb: Quins Caerfyrddin
Hoff chwaraewr: Blair Murray
Enw: Sonny Davies
Oed: 10
Ysgol: Ysgol y Dderwen
Clwb: Quins Caerfyrddin
Hoff chwaraewr: Eddie James
