Be’ sy’ mlaen: Scarlets v Section Paloise

Rob LloydNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i gystadleuaeth Ewrop nos Sadwrn gan wybod bod cyrraedd rowndiau nesaf Cwpan Pencampwyr Investec yn dal i fod o fewn gafael wrth iddynt groesawu Section Paloise i Barc y Scarlets.

Gyda phopeth i’w wneud o hyd yng ngrwp 4, bydd tîm Dwayne Peel yn targedu buddugoliaeth gartref hanfodol yn erbyn yr ymwelwyr o Pau. Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.

Pryd mae’r gic gyntaf?

Fe fydd y gêm yn dechrau am 20:00

Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?

Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 12 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma

Ydy siop y clwb ar agor?

Ydyd, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma

Ble sydd orau i barcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.

  • Pris yw £5 y car
  • Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
  • Gatiau’n agor am 17:00

Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.

Fe fydd y meysydd parcio yn brysur felly dewch yn gynnar er mwyn sicrhau bod digon o amser gyda chi.

Oes gwasanaeth bws?

Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 22:20.

 

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?

Ydyn, ond nad ydyn ni’n derbyn hen bapurau £50 a £20.

Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?

  • 17:30 Lolfa Strade Lounge ar agor ar gyfer dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade. Gallwch brynu lluniaeth ysgafn.
  • 17:30 Bar Tanner Banc ar agor
  • 17:30 Blychau lletygarwch ar agor
  • 18:00 Lolfa Quinnell ar agor
  • 18:00 Pentref Cefnogwyr FSG ar agor
  • 18:00 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
  • 19:00 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?

Mae digon o bethau yn digwydd yn Arena FSG cyn y gêm felly gallwch mewn i gael blas o’r hwyl.

Mae’r gêm yn rhan o thema arbennig ‘Diolch i’r Gwasanaethau’, gan gydnabod a dathlu ymroddiad y Lluoedd Arfog a’r gwasanaethau brys. Anogir cefnogwyr i gyrraedd yn gynnar a mwynhau;r awyrgylch yn Arena Cefnogwyr FSG, a fydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol drwy gydol y prynhawn.

  • Ymweliad gan chwaraewyr (18:30)
  • Cestyll bownsio
  • Gemau hwyl
  • Paentio wynebau
  • Siop VX3 y Scarlets
  • Rygbi TAG
  • Cochyn

Ble allaf brynu tocyn 50-50?

Fe fydd gwerthwyr yn crywdro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.

Gallwch hefyd brynu ar y we yma

Beth sy’n digwydd hanner amser?

Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser. Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser – Penygraig dan 8, Brynaman dan 7, Pembroke Dock Quins dam 10

  • Penygraig dan 8
  • Brynaman dan 7
  • Pembroke Dock Quins dan 10

Cyhoeddi enillydd raffl 50-50

Beth am ar ôl y gêm?

Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’.

Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?

Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;

Chwifio baneri

  • Penygraig dan 8
  • Brynaman dan 7
  • Pembroke Dock Quins dan 10

Pwy yw’r mascots?

Samuel Jenkins

Oed: 11

Ysgol: Ysgol Llannon

Clwb: Clwb Rygbi Tymbl

Hoff Chwaraewr: Tom Rogers

Tomi Wyn Griffiths

Oed: 7

Ysgol: Ysgol Llanddarog

Club: Clwb Rygbi Cefneithin

Hoff Chwaraewr: Ellis Mee