Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i Bencampwriaeth URC BKT prynhawn Sadwrn wrth iddynt groesawu Ulster i Barc y Scarlets ar gyfer ein diwrnod Dathlu’n Cymreictod.
Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.
Pryd mae’r gic gyntaf?
Fe fydd y gêm yn dechrau am 3 o’r gloch.
Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 9 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydy, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma
Ble sydd orau i barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
- Gatiau’n agor am 12:00
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Fe fydd y meysydd parcio yn brysur felly dewch yn gynnar er mwyn sicrhau bod digon o amser gyda chi.
Oes gwasanaeth bws?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 6 o’r gloch.

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Ydyn, ond nad ydyn ni’n derbyn hen bapurau £50 a £20.
Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?
- 12:30 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
- 12:30 Bar Tanner Banc ar agor
- 12:30 Blychau lletygarwch ar agor
- 13:00 Pentref Cefnogwyr FSG ar agor
- 13:00 Lolfa Quinnell ar agor
- 13:00 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
- 14:00 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd
Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Mae digon o bethau yn digwydd yn Arena FSG cyn y gêm felly gallwch mewn i gael blas o’r hwyl.
Mae’r gêm yn rhan o thema arbennig ‘Dathlu’n Cymreictod ac fe fydd digon o bice ar y maen ar gael yn y Pentref i chi.
- Ymweliad gan chwaraewyr (13:30)
- Cestyll bownsio
- Gemau hwyl
- Siop VX3 y Scarlets
- Rygbi TAG
- Cochyn
Bydd y band Y Goleuni yn chwarae am 2.30pm ym Mar Tanner Banc a chôr y Scarlets yn canu yn Stand y De cyn y gêm.
Ble allaf brynu tocyn 50-50?
Fe fydd gwerthwyr yn crywdro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Gallwch hefyd brynu ar y we yma
Beth sy’n digwydd hanner amser?
Fe fydd y timau canlynol yn chwarae TAG hanner amser
- Pontyberem dan 7
- Felinfoel dan 7
- Dinbych y Pysgod dan 7
- Waunarlwydd dan 8
- Trimsaran dan 8 a dan 10
- Pontarddulais dan 8
- Porth Harlequins dan 10
- Dyfnant dan 7
- Hwlffordd dan 7
- Athletic Caerfyrddin dan 8
Fe fydd côr Ysgol Gynradd Ffwrnes yn perfformio wrth ochr y cae yn ystod hanner amser, ac fe fydd aelodau timau Ysgolion dan 11 Llanelli, Caerfyrddin, Mynydd Mawr a Dinefwr, ac Eryri yn cerdded o amgylch y cae mewn dathliad o 50 mlynedd o Undeb Ysgolion Cymru.
Fe fyddwn ni’n cyhoeddi enillydd y raffl 50-50.
Beth am ar ôl y gêm?
Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’. Fe fydd Alys a’r Tri Gwr Noeth a Merched Becca yna i’ch diddanu.
Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?
Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;
Chwifio baneri
- Pontyberem dan 7
- Felinfoel dan 7
- Dinbych y Pysgod dan 7
- Waunarlwydd dan 8
- Trimsaran dan 8 a dan 10
- Pontarddulais dan 8
- Porth Harlequins dan 10
- Dyfnant dan 7
- Hwlffordd dan 7
- Athletic Caerfyrddin dan 8
Pwy yw’r mascots?
Ioan Jones
Oed: 8
Ysgol: Ysgol Gynradd Llandybie
Clwb: Clwb Rygbi Rhydaman
Hoff chwaraewr: Jake Ball
Elis Lloyd
Oed: 10
Ysgol: Ysgol Saron
Hoff Chwaraewr: Tom Rogers
Mari Lloyd
Oed: 6
Ysgol: Ysgol Saron
Hoff Chwaraewr: Tom Rogers
