Be’ sy’ mlaen: Scarlets v Zebre Parma

Rob LloydFeatured

Byddwn ni’n ôl ym Mharc y Scarlets nos Wener 20 Mawrth wrth i ni groesawu Zebre Parma a chyfle i ddathlu ein Diwrnod y Menywod, cic gyntaf 19:45.

Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.

Pryd mae’r gic gyntaf?

Fe fydd y gêm yn dechrau am 7.45pm.

Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?

Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 9 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma 

Ydy siop y clwb ar agor?

Ydy, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma

Ble sydd orau i barcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.

  • Pris yw £5 y car
  • Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
  • Gatiau’n agor am 16:30

Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.

Oes gwasanaeth bws?

Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 22:10.

Gallwch archebu eich tocyn bws yma

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?

Ydyn, ond nad ydyn ni’n derbyn hen bapurau £50 a £20.

Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?

  • 17:30 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
  • 17:30 Bar Tanner Banc ar agor
  • 17:30 Blychau lletygarwch ar agor
  • 17:30 Lolfa Quinnell ar agor
  • 17:45 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
  • 18:45 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?

Ymunwch â ni ym Mar Tanner Banc lle allwch brynu bwyd, mwynhau ymweliad gan chwaraewyr, gêm basio BKT a Bar Fizz!

Fe fydd Côr y Scarlets yn ei lle arferol yn Eisteddle’r De yn diddanu’r dorf tua 19:15. Fe fydd y sgriniau teledu ym Mar Tanner Banc a’r lolfeydd yn dangos chwaraeon byw, gan gynnwys y gêm rhwng Vodacom Bulls a Chaerdydd ym Mhretoria.

Ble allaf brynu tocyn 50-50?

Fe fydd gwerthwyr yn crwydro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.

Gallwch hefyd brynu ar y we yma

Beth sy’n digwydd hanner amser?

Bydd rygbi tag yn cael ei chwarae yn ystod yr egwyl hanner amser

Fe fyddwn ni’n cyhoeddi enillydd y raffl 50-50.

Beth am ar ôl y gêm?

Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’.

Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?

Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;

Chwifio baneri

  • Sospans U16s 

Chwifio baneri

  • Fenton CP School 

Pwy yw’r mascot?

Mackenzie Lawson

Oed: 8

Ysgol: Ysgol Gynradd Penygaer

Clwb: Clwb Rygbi Felinfoel

Hoff Chwaraewr: Tom Rogers