Mae cyffro Cwpan Her Ewrop yn dychwelyd i Barc y Scarlets nos Sadwrn yma pan fyddwn ni’n croesawu un o enwau mawr y Scarlets yn ôl i Lanelli. Fe fydd Stephen Jones yn ymweld gyda’i dîm Newcastle Red Bulls.
Ymunwch â ni o dan y llifoleuadau wrth i ni fynd a chi yn ôl i 2006 gyda detholiad arbennig o ganeuon sy’n siwr o’ch gweld chi’n hel atgofion am nosweithiau arbennig ar droad y ganrif!
Dewch i ddathlu fel ei bod hi’n 2006, y tro diwethaf i ni wynebu Newcastle Red Bulls wrth i ni agor ein ymgyrch Ewropeaidd mewn steil.
Dyma’r amseroedd pwysig:
09:00 Swyddfa docynnau ar agor: prynnwch eich tocynnau o flaen llaw yma
09:00 Siop VX3 ar agor
14:00 Maes Parcio B ar agor
17:30 Bar Tanner Banc ar agor
17:30 Lolfa Strade ar agor
17:30 Lletygarwch ar agor
18:00 Pentref y Cefnogwyr ar agor
19:00 Gatiau Eisteddle Gogledd Owens Group a Eisteddle De Castell Howell ar agor
18:15 Cerddoriaeth gan Sax Stephens ym mar Tanner Banc
20:00 Cic gyntaf Scarlets v Newcastle Red Bulls
Ble mae parcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Oes gwasanaeth bws wennol?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli.

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Heidiwch i Bentref y Cefnogwyr cyn y gêm i fwynhau cwpwl o oriau arbennig i’r teulu oll. Gallwch fwynhau;
- Sgiliau rygbi
- Sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr Scarlets
- Gweithgareddau i blant
- Bwyd a diod
- Paentio wynebau
- Stondin losin
- Raffle 50-50
Bar Tanner Banc yw’r lle i fod os hoffech fwynhau cwpwl o ddiodydd gyda’ch ffrindiau a chyd-gefnogwyr cyn ac ar ôl y gêm.
- Cerddoriaeth fyw gan y sacsoffonydd Darren Stephens yn fyw o 18:15
- Raffl 50-50
Make sure you’re pretty in pink
Bydd y Scarlets yn gwisgo’r trydydd cit newydd sbon ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Her Ewrop yn erbyn Newcastle Red Bulls ar ddydd Sadwrn.
Gyda’r ymateb yn bositif iawn gan ein cefnogwyr a chwaraewyr, edrychwn ymlaen at weld y cit sydd wedi’i ysbrydoli gan grys Scarlets o 1881, ar gae’r Parc.

Mae’r cit gwreiddiol hwnnw o’r 19eg ganrif wedi’i gofnodi yn y llyfrau hanes fel un o rhosyn a briallu o ran lliw ac ar gyfer y dehongliad modern, mae’r lliwiau traddodiadol wedi’u hail-ddychmygu fel bedw a chlaret, tra bod patrwm graddfa draig binc nodedig yn ymddangos ar flaen y crys.
Mae’r manylion pinc yn cyfeirio at elfen ‘rhosyn’ cit gwreiddiol 1881, gan ddod â rhan bwysig o hanes y Scarlets i mewn i ddyluniad cyfoes.
Prynnwch eich cit heddiw yma
Ein mascots ni ar gyfer y gêm yw:
- Dafydd Phillips
- Ifan Jones
Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Fe fydd un til arian parod ym mhob ciosg, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.
