Beth sy’ ‘mlân: Scarlets v Rygbi Benetton

Rob LloydFeatured

Ymunwch â ni ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn ar gyfer rygbi hwyrnos wrth i Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ddychwelyd i Lanelli.

Mae’r tywydd yn edrych yn addawol, gyda disgwyl noson glir hydrefol, yr amodau perffaith ar gyfer cic gyntaf am 5.30 yr hwyr.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Benetton sydd bellach o dan arweiniad ein cyn brif hyfforddwr Wayne Pivac, a Rhys Patchell yn is-hyfforddwr hefyd.

Gyda Diwrnod Shwmae Sumae ar y gorwel fe fyddwn ni’n Dathlu’n Cymreictod, mewn partneriaeth â Menter Cwm Gwendreath Elli.

Dyma’ch amseroedd: 

09:00 Swyddfa docynnau ar agor: prynnwch eich tocynnau o flaen llaw yma

09:00 Siop VX3 ar agor

14:00 Maes Parcio B ar agor

14:30 Tanner Banc ar agor

14:30 Lolfa Strade ar agor

15:15 Lletygarwch ar agor

15:30 Pentref y Cefnogwyr ar agor

16:15 Penne Orenne i chwarae yn y Tanner Banc

16:30 Gatiau Eisteddle Gogledd Owens Group a Eisteddle De Castell Howell ar agor

17:00 Côr y Scarlets i ganu yn y neuadd fwyd Eisteddle’r De

17:30 Cic gyntaf Scarlets v Rygbi Benetton

18:10 Côr Ysgol Ffwrnes i ganu wrth ochr y cae

19:30 Y Llanw i chwarae yn y Tanner Banc

20:30 Alys a’r Tri Gwr Noeth i chwarae yn y Tanner Banc

Ble mae parcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.

  • Pris yw £5 y car
  • Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod

Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.

Oes gwasanaeth bws wennol?

Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. 

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?

Fe fydd Pentref y Cefnogwyr yn llwyfannu sgiliau rygbi, gweithgareddau i blant, bwyd a diod, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb gyda chwaraewyr.

Fe fydd cynrychiolwyr lleol o Prostate Cymru, Angor, Hate Crime Week a Foster Cymru yn bresennol yn ogystal â siop VX3, gwerthwyr raffl 50-50, stondin losin a chyfle i gael paentio eich wyneb gyda Chase the Stars.

Byddwn ni’n croesawu’n timau canlynol bydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol:

  • Tycroes Dan 7
  • Tycroes Dan 8
  • Tycroes Dan 9
  • Tycroes Dan 10
  • Tycroes Dan 11
  • Tycroes Dan 12
  • San Clêr Dan 7
  • San Clêr Dan 8
  • San Clêr Dan 9
  • San Clêr Dan 10
  • San Clêr Dan 11
  • San Clêr Dan 12
  • San Clêr Dan 13
  • San Clêr Dan 15
  • Bridgend Sports Dan 8

Ein mascots ni ar gyfer y gêm yw:

  • Roman James
  • Tate Griffiths
  • Harri Griffiths
  • Dyfan Jones
  • Oscar Bowen 

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?

Fe fydd un til arian parod ym mhob ciosg, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.