Blair yn ennill pleidlais Chwaraewr y Mis

Rob LloydFeatured

Seren rygbi Cymru Blair Murray sydd wedi ennill y bleidlais Chwaraewr y Tymor Vaughan Construction am fis Medi/Hydref.

Yn rhan o garfan Cymru sydd yn paratoi am y gêm agoriadol yn erbyn yr Ariannin ar ddydd Sul, mae Blair wedi parhau gyda’r perfformiadau cryf o’r tymor diwethaf gyda cheisiau yn erbyn Munster a Hollywoodbets Sharks.

Enillodd 45% o bleidlais y cefnogwyr, gan faeddu Taine Plumtree, Marnus van der Merwe a Jarrod Taylor am y wobr.

Bydd y Scarlets yn parhau’r chwarae gyda gêm gyfeillgar yn erbyn Harlequins yn The Stoop ar ddydd Gwener, Tachwedd 21 cyn ddychwelyd i Barc y Scarlets am rownd 6 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Glasgow Warriors ar Dachwedd 29 (19:45).