Brython Thunder yn talu’r pwyth wrth guro Gwalia Lightning

Rob LloydNewyddion

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod Brython Thunder enillodd y gêm ddarbi Gymreig o 7-0 yn erbyn Gwalia Lightning ar Barc y Scarlets.

Roedd y ddau dîm Cymreig eisoes wedi cyrraedd gemau ail-gyfle’r Her Geltaidd ac mae canlyniad heddiw’n cadarnhau y bydd Brython Thunder yn teithio i wynebu’r Wolfhounds a Gwalia Lightning hefyd ar daith i Iwerddon i wynebu’r Clovers.

Bydd y ddwy ornest honno’n digwydd yn Iwerddon ddydd Sadwrn yr 21ain o Fawrth, a bydd y Rownd Derfynol ei hun yn cael ei chynnal yn Stadiwm Hive, Caeredin y penwythnos canlynol.

Er mai wynebu’r Pencampwyr presennol yw tynged Ashley Beck a’i garfan, Brython Thunder yw’r unig dîm i guro’r Wolfhounds y tymor hwn a byddant yn teithio i’r Ynys Werdd yn hyderus gan eu bod nhw bellach wedi ennill pum gêm yn olynol yn yr Her Geltaidd.

Yn dilyn eu colled yn Llanelli heddiw, momentwm o fath gwahanol sy’n perthyn i garfan Catrina Nicholas-McLaughlin gan eu bod nhw wedi colli eu pum gêm gynghrair olaf o’r tymor arferol.

Yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf fe enillodd Gwalia’r gêm ddarbi Gymreig gyntaf o’r tymor yn gymharol rwydd o 38-7 – ond Brython Thunder gafodd y gorau o’r cyfnod cyntaf allweddol ar Barc y Scarlets heddiw.

Fe ddechreuodd 14 o chwaraewyr rhyngwladol Cymru’r ornest hon heddiw ac un o’r rheiny, sef y dylanwadol Branwen Metcalfe sgoriodd unig gais y gêm wedi chwarter awr o chwarae. Ar y pryd, fyddai neb wedi darogan mai trosiad cywir a chynnar Hanna Marshall fyddai sgôr ola’r ornest.

Roedd y blaen-asgellwr Lucy Isaac yn meddwl ei bod hi wedi tirio ail gais ei thîm yn fuan wedi hynny – ond ni chaniatawyd hwnnw am drosedd yn gynharach yn y symudiad.

Parhau wnaeth pwyso cyson y clwb cartref – ond er i glo Cymru Abbie Fleming weld cerdyn melyn am droseddu cyson Gwalia Lightning – methiant fu ymdrechion Brython i gynyddu eu mantais o 7 pwynt.

Wedi i Gwalia Lightning ddod â’u capten Bryonie King oddi ar y fainc, roedd yr ymwelwyr yn llawer mwy corfforol a chystadleuol.

Er i Brython Thunder orfod chwarae munudau olaf y gêm gyda dim ond 13 o chwaraewyr wedi troseddau’r eilydd Jess Rogers a’r asgellwr Seren Singleton, doedd dim modd i’r ymwelwyr dorri amddiffyn trefnus y tîm cartref.

Brython Thunder yn talu’r pwyth am eu colled yng ngêm ddarbi gynta’r tymor felly ac yn camu ymlaen i Iwerddon a’r gemau ail-gyfle gyda pharch a hyder.