Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi penodiad y cyn-chwaraewr rhyngwladol, hyfforddwr ac arweinydd rygbi a busnes profiadol, Nigel Davies, yn Gyfarwyddwr Rygbi Dros Dro, gan ddechrau ar unwaith tan ddiwedd tymor 2025-26.
Mae Nigel Davies yn dod â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o rygbi elitaidd ac arweinyddiaeth perfformiad uchel gan gynnwys datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr rhyngwladol ac mae ganddo brofiad mewn ymgynghoriaeth a thrawsnewid busnes byd-eang.
Mae’r penodiad yn dilyn adolygiad rygbi strategol o weithrediadau rygbi’r clwb a gynhaliwyd gan Fwrdd y Scarlets yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn rôl newydd y Cyfarwyddwr Rygbi, bydd Davies yn goruchwylio adran rygbi’r Scarlets, gan adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd y Scarlets gyda chyfrifoldeb llawn am berfformiad, canlyniadau a dewis y timau, gan ddarparu arweinyddiaeth, strwythur ac aliniad ar draws y rhaglen rygbi hŷn.
Mae’n ymuno â’r clwb ar adeg hollbwysig i ddarparu arweinyddiaeth glir, atebolrwydd, cynllunio perfformiad uchel ac ymrwymiad unedig i yrru safonau a chanlyniadau uwch.
Bydd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel, yn parhau i arwain y gwaith hyfforddi o ddydd i ddydd, paratoadau gemau a chynlluniau technegol, gan weithio’n agos gyda Davies o fewn fframwaith perfformiad cydlynol.
Mewn cyfnod o ddegawd a mwy yn hyfforddi’r Scarlets, arweiniodd Davies y clwb i lwyddiant mawr gan gynnwys teitl Cynghrair Celtaidd yn 2003/4, dwy rownd gynderfynol Ewropeaidd a phedair rownd gogynderfynol Ewropeaidd.
Mae gan Davies brofiad helaeth o ddatblygu chwaraewyr a hyfforddwyr o safon ryngwladol. Chwaraeodd ran arwyddocaol wrth ddatblygu cenhedlaeth aur i’r Scarlets a fyddai’n mynd ymlaen i ffurfio asgwrn cefn Cymru ar draws nifer o Gwpanau’r Chwe Gwlad a Chwpan y Byd, yn ogystal â chefnogi grwp craidd ifanc o chwaraewyr rhyngwladol newydd i Loegr tra oedd yng Nghaerloyw.
Mae rhain yn cynnwys: Jonathan Davies, Ken Owens, George North, Rhys Priestland, Liam Williams, Scott Williams, Josh Turnbull, Jonny May, Henry Trinder, Freddie Burns, Ben Morgan and Billy Twelvetrees as well as developing coaches Simon Easterby and Mark Jones.
O’i waith ymgynghori yn y blynyddoedd mwy diweddar, daw Davies ag arbenigedd mewn trawsnewid busnesau ar lefel bwrdd, sy’n cwmpasu adolygu sefydliadol, optimeiddio perfformiad, gwelliant parhaus a chynllunio strategol, gan gynnwys gwaith cynghori ar gyfer sefydliadau modurol ac awyrofod blaenllaw.
Dywedodd Nigel Davies: “Mae hyn yn ymwneud â dod ag eglurder, aliniad a sefydlogrwydd i’r rhaglen rygbi. Byddaf yn cymryd cyfrifoldeb llawn am berfformiad a chanlyniadau, yn gosod safonau clir ar gyfer sut rydym yn chwarae ac yn ymddwyn, ac yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cefnogi chwaraewyr a hyfforddwyr i berfformio. Fy ffocws yw symleiddio negeseuon, atgyfnerthu gwerthoedd y Scarlets, a chreu’r amodau ar gyfer gwelliant, yn y tymor byr a thu hwnt.
“Mae gan y Scarlets hunaniaeth rygbi gref a balch, gyda threftadaeth rygbi gyfoethog, gwerthoedd a thraddodiadau dwfn ac mae wedi’i ymgorffori yn niwylliant cymunedau gorllewin Cymru. Mae’r clwb hwn wedi, a bydd yn parhau i gyflawni canlyniadau mawr sy’n cyffroi ein cefnogwyr a chenedlaethau’r dyfodol o chwaraewyr yn y gêm. Mae’r gwaith caled yn parhau ac rwy’n edrych ymlaen at roi fy nghefnogaeth a’m hymdrech i’r grŵp am weddill y tymor hwn.”
Dywedodd Simon Muderack, Cadeirydd Gweithredol y Scarlets: “Mae hwn yn benderfyniad strategol gan y Bwrdd i gryfhau ein strwythurau perfformiad rygbi am weddill y tymor hwn. Rydym wrth ein bodd ac yn ddiolchgar bod Nigel wedi cytuno i ddychwelyd i Barc y Scarlets i arwain a chefnogi’r amgylchedd rygbi yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn yn ein tymor ac ar adeg pan fo rygbi Cymru wedi’i wreiddio mewn adolygiad heriol ac eang.
“Mae Nigel wedi profi ei fod yn gallu gyrru newid strategol a chreu diwylliannau a phrosesau perfformiad uchel. Credwn y bydd dyfnder ei ddeallusrwydd rygbi, ei brofiad a’i angerdd dros ein clwb, a dros rygbi yng Nghymru, yn dwysáu ein dull a’n hymgyrch yn sylweddol at ddiwedd y tymor, yn ogystal â helpu i danio ein dyfodol rygbi.”
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Jon Daniels: “Mae Nigel yn dod â phrofiad rygbi elitaidd, dealltwriaeth ddofn o’r Scarlets a meddylfryd perfformiad cryf ac arloesol a fydd yn cefnogi Dwayne a’r tîm hyfforddi. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wella canlyniadau, gwireddu ein potensial a chwarae gyda hunaniaeth Scarlets gref – i sicrhau ein bod yn rhoi ail hanner y tymor y bydd ein rhanddeiliaid a’n cefnogwyr ffyddlon ac ymroddedig yn falch ohono.”
Fe fydd Leigh Jones, Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi, yn gadael y Scarlets fel rhan o ailstrwythuro’r adran rygbi. Mae Leigh yn gadael y Scarlets gyda diolch gan bawb yn y clwb am ei gyfraniad a’i ymrwymiad dros y 18 mis diwethaf a gyda dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol.
Bydd y Scarlets yn cadarnhau unrhyw benodiadau rygbi yn y dyfodol fel rhan o’i adolygiad rygbi yn yr wythnosau nesaf.
