Canolwr y Scarlets Gabe McDonald yn arwyddo cytundeb newydd

Rob LloydNewyddion

Mae’r canolwr Gabe McDonald, un o griw o olwyr ifanc cyffrous y Scarlets, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Mae’r chwaraewr canol cae talentog wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ei gêm yn ystod y cyfnod cyn dymor, gan greu argraff ar y grŵp hyfforddi gyda’i berfformiadau, ei agwedd a’i ymateb i’r heriau a osodwyd o’i flaen.

Croesodd y chwaraewr 21 oed o Borth Tywyn am ei gais cyntaf i’r Scarlets a llwyddodd i gael tair trosiad yn y fuddugoliaeth dros Exeter Chiefs y penwythnos diwethaf – rhagor o dystiolaeth o’i dalent.

Ar ôl astudio yn Ysgol y Strade a Choleg Sir Gâr, disgleiriodd McDonald i dîm dan 18 y Scarlets cyn cael cytundeb academi uwch.

Wedi chwarae i dîm Cymru dan 19, mae wedi bod yn bresenoldeb cryf yng nghanol cae Cwins Caerfyrddin yn Super Rygbi Cymru ac mae bellach yn gwthio am gyfleoedd ar lefel uwch gyda’r Scarlets.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Nigel Davies: “Mae gan Gabe rai rhinweddau naturiol da iawn. Mae’n bwerus, mae’n gallu cario, mae ganddo sgiliau da ac mae’n deall y gêm. Yr hyn sydd wedi creu argraff arnom yr haf hwn yw’r gwaith y mae wedi’i wneud i rai o rannau mwy cynnil ei gêm.

“Weithiau nid yw datblygu chwaraewyr yn ymwneud â newidiadau enfawr. Mae’n ymwneud â deall y pethau bach a all wneud y rhinweddau sydd gennych yn barod yn fwy effeithiol – eich safle, gwneud penderfyniadau, amseru, beth rydych chi’n ei wneud heb y bêl a deall beth sy’n digwydd o’ch cwmpas.

“Mae Gabe wedi ymgysylltu’n fawr â hynny. Mae wedi ystyried adborth, wedi gweithio ar ei gêm ac rydym yn dechrau gweld y manteision ohono yn y ffordd y mae’n hyfforddi ac yn perfformio.

“Rydym wedi siarad llawer am greu dyfnder a chystadleuaeth wirioneddol ar draws ein carfan. Mae hynny’n dod o lofnodi chwaraewyr ac o’r chwaraewyr yn datblygu a gwella o fewn ein rhaglen a rhoi pwysau ar y bobl o’u cwmpas.

“Mae Gabe yn chwaraewr arall sydd wedi dod trwy ein llwybr rhanbarthol, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n parhau i fod yn hynod bwysig i ni. Rydym eisiau i chwaraewyr talentog o fewn ein cymunedau weld llwybr gwirioneddol i mewn i dîm uwch y Scarlets – ac mae rhaid gweithio am y cyfle hwnnw.”

Gwnaeth McDonald ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Exeter ddwy flynedd yn ôl, a tymor diwethaf ymddangosodd ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Unedig, gan chwarae yn y fuddugoliaeth gartref dros Glasgow Warriors ac yn erbyn Connacht yng Ngalway.

Dywedodd Gabe McDonald: “Pan oeddwn i’n iau roedd fy mamgu yn arfer mynd â fi i bob gêm gartref i’r Scarlets, roedd gennym ni docynnau tymor bob blwyddyn; rydw i wrth fy modd fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

“I mi, mae’n bwysig i weithio’n galed ar ddatblygu fy ngêm a manteidio ar hyfforddi ochr yn ochr â’r canolwyr rhyngwladol sydd gennym ni yma yn y Scarlets yn fy ysgogi i gyrraedd y lefelau hynny.

“Roedd gêm Exeter yn gam pwysig i ni fel tîm. Chwaraeodd y grwp yn hyderus, gan ddangos llawer o’r sgiliau i ni wedi gweithio ar dros yr haf ac roedd hi’n deimlad wych i gael groesi am fy nghais cyntaf i’r Scarlets.

“Mae yna lawer o bobl ifanc yn y garfan yn rhoi eu dwylo i fyny ar hyn o bryd, yn ymladd yn galed am y crys. Mae cystadleuaeth ledled y garfan ac mae hynny’n ein gyrru ni i gyd. Felly mae’n bwysig ein bod ni’n cynnal y safonau hynny ac yn gwthio ymlaen yn erbyn y Dreigiau heno (dydd Gwener) yn Llanymddyfri.”

Mae McDonald wedi cael ei enwi yn y tîm cychwynnol ar gyfer ail gêm yr ail gêm gyfeillgar yn erbyn Clwb Rygbi’r Dreigiau yn Llanymddyfri nos Wener, ac mae ymhlith criw o chwaraewyr sydd wedi arwyddo cytundebau newydd cyn ymgyrch 2026-27, gan gynnwys Eddie James, Fletcher Anderson, Josh Macleod, Henry Thomas, Gareth Davies, Dan Davis, Sam Lousi, Harri O’Connor, Jac Davies, Will Evans, Carwyn Leggatt-Jones, Gabe Hawley a Harry Thomas.

Mae her Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT y Scarlets yn cychwyn ddydd Sadwrn, Medi 26 (cic gyntaf 7.45pm) gydag ymweliad Caerdydd â Pharc y Scarlets. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gêm a thocynnau tymor yma.