Y maswr 18 oed Carwyn Leggatt-Jones fydd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf yn y bencampwriaeth i’r Scarlets ar nos Wener wrth i’r tîm anelu at adeiladu ar y fuddugoliaeth yn erbyn Ulster o benwythnos diwethaf (19:45; S4C & Premier Sports).
Gyda naw chwaraewr yn eisiau o ganlyniad i ddyletswydd ryngwladol y Chwe Gwlad, myfyriwr Coleg Llanymddyfri Leggatt-Jones yw un o 12 newid i’r XV a fydd yn cymryd i’r cae yn Stadio Monigo.
Yn y tri ôl mae Jac Davies, sydd wedi mwynhau ei ymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, fydd yn dychwelyd i grys rhif 15, gyda Macs Page a Tomi Lewis ar y ddwy asgell.
Yng nghanol cae, Joe Roberts sydd yn dychwelyd o anaf i gydweithio â Johnny Williams, a fydd yn gapten ar yr ochr.
Leggatt-Jones fydd yn gwisgo crys rhif 10 ar ôl dod oddi’r fainc yn ei ddau ymddangosiad diwethaf yn y URC yn erbyn Glasgow a’r Dreigiau, a fydd yn bartner i’r mewnwr profiadol Gareth Davies.
Yn y rheng flaen, Alec Hepburn fydd yn cychwyn yn safle’r prop pen rhydd, Marnus van der Merwe yn fachwr a safle’r prop pen tynn sydd yn parhau yn nwylo Archer Holz.
Jac Price fydd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf yn y URC o’r tymor wrth ochr Sam Lousi yn yr ail reng.
Yn y rheng ôl, Max Douglas sydd wedi gwella o anaf a gafwyd yn erbyn Northampton i gychwyn fel blaenasgellwr ochr dywyll, Jarrod Taylor fydd yng nghrys rhif 7, a Fletcher Anderson – presenoldeb cyson ers iddo gyrraedd Llanelli – fydd yn dechrau fel wythwr.
Ymysg yr eilyddion, Jake Ball sydd wedi cwblhau protocolau dychwelyd i chwarae a fydd yn gwneud ei 100fed ymddangosiad URC os yw’n dod oddi’r fainc.
Billy McBryde, sydd ar fenthyg o RGC sydd ar y fainc ar gyfer safle’r maswr, gyda’i ymddangosiad diwethaf yng nghrys Scarlets naw mlynedd yn ôl, tra bod asgellwr yr Academi Iori Badham yn chwilio am ei ail ymddangosiad yn y bencampwriaeth.
Nid yw Ioan Nicholas ar gael ar gyfer rownd 11 oherwydd rhesymau personol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi dros dro’r Scarlets Nigel Davies: “I ni wedi canolbwyntio ar y ddwy gêm URC yma, Ulster a Benetton, fel cyfres ac mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar y fuddugoliaeth wythnos diwethaf – i ni wedi sicrhau’r rhan gyntaf, nawr i ni’n canolbwyntio ar gêm fawr arall.
“Mae Benetton wedi recriwtio’n dda, wedi cael eu hyfforddi’n dda ac yn chwarae brand da o rygbi. Fel ni, mae ganddyn nhw chwaraewyr yn eisiau ond mi fyddan nhw’n gryf iawn. I ni wedi dewis tîm gyda llawer o dalent ifanc ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n camu at yr her ar nos Wener.”
Tîm y Scarlets i wynebu Benetton Rugby ar nos Wener, Ionawr 30 (19:45; S4C & Premier Sports)
15 Jac Davies; 14 Macs Page, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams (capt), 11 Tomi Lewis; 10 Carwyn Leggatt-Jones, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Archer Holz, 4 Sam Lousi, 5 Jac Price, 6 Max Douglas, 7 Jarrod Taylor, 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Harry Thomas, 17 Josh Morse, 18 Henry Thomas, 19 Jake Ball, 20 Dan Davis, 21 Dane Blacker, 22 Billy McBryde, 23 Iori Badham
Ddim ar gael oherwydd anaf
Will Evans, Elis Price, Ioan Jones, Isaac Young
Ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol
Sam Costelow, Blair Murray, Tom Rogers, Ellis Mee, Joe Hawkins, Eddie James, Ryan Elias, Taine Plumtree, Josh Macleod

