Chwaraewyr Cymru yn dychwelyd ar gyfer gêm Zebre

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets yn croesawu nôl chwe aelod o garfan Chwe Gwlad Cymru ar gyfer gêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Zebre ar nos Wener ym Mharc y Scarlets (19:45; S4C & Premier Sports).

Y capten Josh Macleod, y cefnwr Blair Murray, asgellwyr Tom Rogers ac Ellis Mee a’r bachwr Ryan Elias sydd wedi’u henwi yn y XV i ddechrau gyda Joe Hawkins wedi’i enwi ar y fainc.

Dyma fydd gêm gyntaf y Scarlets ar dir cartref ers diwedd mis Ionawr wrth iddyn nhw edrych i hawlio’r fuddugoliaeth nesaf yn dilyn cyfnod o ganlyniadau anodd yn erbyn Caeredin a Connacht oddi cartref.

Mae Murray, Rogers a Mee yn cyfuno yn y tri ôl, wrth i Johnny Williams a Macs Page cydweithio yng nghanol cae. Joe Roberts sy’n colli mas wrth iddo ddilyn protocolau dychwelyd i chwarae yn dilyn ergyd yn Galway penwythnos diwethaf, tra bod Eddie James yn gwella o anaf ysgwydd a gafwyd yng ngêm Chwe Gwlad Cymru.

Dau newid sydd yn y rheng flaen – Elias sydd yn cymryd safle Marnus van der Merwe yng nghrys rhif 2, gydag Archer Holz yn dychwelyd o anaf fel prop pen tynn.

Max Douglas sy’n symud o’r rheng ôl i glo wrth ochr Sam Lousi; Jarrod Taylor sy’n newid o’r ochr agored i’r ochr dywyll, sy’n galluogi Macleod i wisgo’i hoff grys rhif 7 gyda Fletcher Anderson yn parhau fel wythwr.

Ar y fainc, van der Merwe Henry Thomas a Gabe Hawley sydd ar gael i’r rheng flaen, yn ogystal â Jac Price, Dan Davis, Dane Blacker, Hawkins ac Ioan Jones sy’n cwblhau’r rhestr o eilyddion.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi dros dro’r Scarlets Nigel Davies: “Yn amlwg mae’r ddau ganlyniad diwethaf wedi bod yn rhwystredig yn erbyn Caeredin a Connacht oherwydd roedd yna deimlad ein bod mewn safle i wthio yn fwy a chael mwy allan ohonyn nhw.

“Nad oedd y grŵp yn ddigon clinigol yn ardal y dacl penwythnos diwethaf yn Galway, er hynny i ni wedi gweithio’n dda trwy’r wythnos yn ymarfer ein sgiliau a gobeithio fe allwn hawlio buddugoliaeth yn erbyn tîm galluog Zebre.

“Mae wedi bod yn wych i gael bois Cymru nôl gyda ni, ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae yn y Parc eto. Roedd y dorf yn wych yn ein gêm gartref diwethaf yn erbyn Ulster a gobeithio fe allwn weld niferoedd tebyg ar nos Wener.”

Tîm y Scarlets i wynebu Zebre Parma ar nos Wener, Mawrth 20 (19:45; S4C & Premier Sports)

15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Macs Page, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Carwyn Leggatt-Jones, 9 Archie Hughes; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Archer Holz, 4 Sam Lousi, 5 Max Douglas, 6 Jarrod Taylor, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.

Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Henry Thomas, 18 Gabe Hawley, 19 Jac Price, 20 Dan Davis, 21 Dane Blacker, 22 Joe Hawkins, 23 Ioan Jones.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Alec Hepburn, Eddie James, Joe Roberts, Sam Costelow, Taine Plumtree, Ioan Nicholas, Josh Morse, Sam O’Connor, Will Evans, Dom Kossuth, Isaac Young, Iori Badham.