Mae Blair Murray yn dangos fel un o wyth newid i dîm y Scarlets sydd i wynebu Rygbi Caerdydd ym Mharc yr Arfau ar nos Wener (19:45; BBC Wales & Premier Sports).
Nid yw Murray wedi ymddangos ers Cyfres yr Hydref ac yn dychwelyd yw safle fel cefnwr.
Tu ôl i’r sgrym, mae Tom Rogers, Johnny Williams a Gareth Davies hefyd yn dychwelyd ar ôl colli mas ar y gêm yn Bordeaux penwythnos diwethaf.
Mae Rogers yn ymuno â Murray ac Ellis Mee yn y tri ôl, gyda Williams yn bartner i Eddie James yng nghanol cae.
Mae Joe Hawkins yn parhau fel maswr i gydweithio gyda Davies. Nid yw Sam Costelow ar gael ar ôl anafu ei bigwrn yn ystod ymarferion yn yr wythnos.
Mae Joe Hawkins yn parhau fel maswr i gydweithio gyda Davies. Nid yw Sam Costelow ar gael ar ôl anafu ei bigwrn yn ystod ymarferion yn yr wythnos.
Mae Sam Lousi yn dychwelyd i’r ail reng wrth ochr Jake Ball, tra bod Max Douglas yn newid i’r rheng ôl, sydd yn gweld Josh Macleod yn dychwelyd i’r ochr agored.
Mae maswr Cwins Caerfyrddin Elis Price ar drywydd i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth ar ôl cael ei enwi ar y fainc.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae hwn yn gêm enfawr i ni, mae’n bwysig i ni ddechrau dringo’r tabl. Mae’r pedair gêm ddiwethaf, gan gyfri gêm y Sharks yn Ne Affrica, i ni wedi edrych mwy fel y tïm i ni am fod, ac yn debycach fel oeddem ni ar ddiwedd y tymor diwethaf.
“Mae’r gemau yn erbyn Caerdydd bob tro’n gorfforol iawn ac maen nhw wedi dangos eu cymeriad dros y gemau diwethaf, ac i ni’n disgwyl hynny. Mi fydd hi’n achlysur da yn y brifddinas gyda thorf fawr.
Tîm y Scarlets i wynebu Rygbi Caerdydd ar ddydd Gwener, Rhagfyr 19 (19:45; BBC Wales & Premier Sports)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Eddie James, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Max Douglas, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Alec Heburn, 18 Harri O’Connor, 19 Jarrod Taylor, 20 Dan Davis, 21 Archie Hughes, 22 Elis Price, 23 Joe Roberts.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Archer Holz, Taine Plumtree, Sam Costelow, Ioan Jones, Dom Kossuth.
