Cyfle i ffarwelio â Liam Williams

Rob LloydNewyddion

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Liam Williams, un o fawrion y cyfnod modern yn hanes y Scarlets, yn ymuno â ni ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn cyn y gêm fawr yn erbyn Caerdydd.

Chwaraeodd Liam 120 o gemau i’r Scarlets dros wyth tymor ac roedd yn aelod allweddol o’r tîm a enillodd y PRO12 yn 2017, gan sgori cais arbennig yn y rownd derfynol yn erbyn Munster.

Mae wedi dod â’i yrfa i ben yn ddiweddar ar ôl chwarae 93 gêm i Gymru a theithio ddwywaith gyda’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig. Fe fydd cyfle gan gefnogwyr y Scarlets ddiolch iddo a ffarwelio un waith eto gyda’r gwr sy’n cael ei adnabod fel ‘Sanjay’.

Gwnewch yn siwr eich bod chi yn eich sedd yn gynnar i fwynhau adloniant gan Gôr y Scarlets a Chôr Rygbi Caerdydd cyn i ni groesawu ‘Sanj’ i’r cae cyn y gic gyntaf.

Mae seddi’n brin yn Eisteddle Gogledd Owens Group felly beth am gymryd mantais o’r cynnig grwp yn y Safle Sefyll lle mae 8 a mwy o oedolion yn gallu mynychu am £15 y pen!

Mae’n addo bod yn achlysur arbennig, prynnwch eich tocynnau YMA

https://youtu.be/hCHwdhjsSUo?si=8pGvj9bh_mhIdjR7