Fe fydd y Scarlets yn dechrau tymor 2026-27 ym Mharc y Scarlets gyda gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd ddydd Sadwrn 26 Medi.
Gwnewch yn siwr eich bod chi yn y Parc ar gyfer tymor cyffrous arall o rygbi ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT a Chwpan Her Ewrop.
Fe fydd seddau tocynnau tymor presennol yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd penwythnos nesaf, adnewyddwch nawr i sicrhau eich sedd ar gyfer y tymor newydd.
Adnewyddwch nawr
Ers cenedlaethau, mae ein clwb wedi bod wrth wraidd rygbi gorllewin Cymru. Wedi’i adeiladu ar angerdd a balchder, mae stori’r Scarlets yn un o gymuned a chystadleuaeth. O fuddugoliaethau enwog a chwaraewyr chwedlonol i nosweithiau bythgofiadwy ym Mharc y Scarlets, mae hanes y clwb wedi’i blethu i frethyn y rhanbarth a’r bobl sy’n ei alw’n gartref.
Mae bod yn rhan o deulu’r Scarlets yn golygu mwy na dim ond gwylio rygbi. Mae’n golygu rhannu yn yr uchafbwyntiau a’r heriau, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn yr eisteddle, a chreu awyrgylch sy’n gwneud Parc y Scarlets yn un o gartrefi arbennig y gêm.
Mae eich cefnogaeth yn tanio’r chwaraewyr ar y cae ac yn helpu i gario ein traddodiadau balch ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
Mae’r capten Josh Macleod, yr wythwr Fletcher Anderson, y mewnwr Gareth Davies, y blaenasgellwr Dan Davies a’r cefnwr addawol Jac Davies wedi arwyddo cytundebau newydd i aros yn y rhanbarth.
Fe fydd Corey Domachowski (prop), John McKee (bachwr), Harvey Cuckson (clo), a George Roberts (bachwr) yn ymuno â’r Scarlets dros yr haf ar gyfer y tymor newydd.
Dywedodd Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets: “Ry’n ni’n meithrin cystadleuaeth wirioneddol ar draws y garfan oherwydd dyna sy’n gyrru safonau ac yn gwella perfformiadau. Ry’n ni wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae cystadleuaeth wedi’i chael o fewn y grwp dros y ddau dymor diwethaf.”
I ddysgu mwy am becynnau tocyn tymor 2026-27, cliciwch yma
