Cymru i deithio o gwmpas y wlad ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027.
Parc y Scarlets yn Llanelli fydd yn cynnal gêm gartref ragbrofol gyntaf Cymru ym mis Mawrth, pan fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Montenegro ar ddydd Sadwrn 7 Mawrth (CG 4.30pm).
Chwaraeodd Cymru ddiwethaf yn Llanelli ym mis Gorffennaf 2024, gan guro Kosovo 2-0 mewn gêm ragbrofol UEFA EWRO Menywod 2025, pan dorrodd Jess Fishlock record sgorio goliau Cymru o flaen mwy na 4,000 o gefnogwyr.
Bydd Wilkinson a’r chwaraewyr yn gobeithio y bydd dychweliad Cymru yn gweld y Wal Goch yn troi allan yn eu niferoedd unwaith eto yng ngorllewin Cymru i gefnogi’r tîm.
Yna bydd tîm Wilkinson yn teithio i’r gogledd i Wrecsam i wynebu Albania yn y STōK Cae Ras ar ddydd Mawrth 14 Ebrill (CG 7.15pm), ar ôl chwarae yno ym mis Chwefror blwyddyn ddiwethaf
mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden o flaen torf record ar gyfer gêm gartref y tu allan i Gaerdydd, gyda mwy na 6,000 yn bresennol.
Bydd ymgyrch Cynghrair B yn dod i ben yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Czechia, ail hadau’r grŵp, ar ddydd Mawrth 9 Mehefin (cic gyntaf i’w gadarnhau).
Mae ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd yn gweld tîm Rhian Wilkinson yn cystadlu yng Nghynghrair B wrth iddyn nhw anelu at gyrraedd twrnamaint yr haf nesaf ym Mrasil. Bydd y tri safle uchaf yn y grŵp rhagbrofol yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle, a fydd yn cael eu cynnal yn ail hanner 2026.
Mae’r amserlen gemau lawn ar gyfer yr ymgyrch, gan gynnwys gemau oddi cartref, ar gael yma.
Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gemau yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.
