Mae’r Scarlets yn gwahodd cyn chwaraewyr i gyfrannu i restr pendant o gyn chwaraewyr sydd wedi cynrychioli’r clwb dros ganrif a hanner.
Ar ôl cyhoeddi’r restr mis diwethafm ry’n ni wedi derbyn negeseuon gan gyn chwaraewyr, teuluoedd a ffrindiau ac mae wedi bod yn wych derbyn adborth bositif a chyffro am y prosiect.
Mae amser o hyd i chi gysylltu â ni os oes angen cywiro eich enw neu os oes angen eich cynnwys – gallwch ddod o hyd i’r reste YMA ac ebostiwch [email protected] os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol i’r restr, fel cyn chwaraewyr Clwb Rygbi Llanelli hyd at 2003 ac yna tîm proffesiynol y Scarlets hyd heddiw.
Fe fydd y cyfnod cysylltu yn dod i ben ddydd mercher, Mehefin 10.
Ar ôl i’r cyfnod ymgynghoriad gau fe fydd pob chwaraewr yn derbyn rhif unigryw a thystysgrif, gyda phenllanw’r prosiect a’r lansiad swyddogol i ddigwydd ar gêm agoriadol tymor 2026-27, pan fydd y Scarlets yn croesawu Caerdydd i’r Parc ddydd Sadwrn, Medi 26.
Mae’r prosiect yn rhan o ehangach o waith y Scarlets i ddathlu treftadaeth a hanes y clwb.
Yn ychwanegol i hyn, fe fydd restrau anrhydeddau newydd yn cael eu gosod yn Lolfa Strade ar gyfer y tymor newydd.
