Dan Davis yn arwyddo cytundeb newydd gyda’i glwb cartref

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets wrth eu bodd yn cadarnhau bod y chwaraewr rheng ôl Dan Davis wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’i glwb cartref ar ôl dathlu ei 100fed ymddangosiad i’r Scarlets yn nharbi gorllewin Cymru ddydd Sadwrn.

Wedi’i fagu yn Llandeilo mae Dan yn esiampl da arall o lwybr ddatblygu’r Scarlets, wedi dod trwy’r system Academi cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r garfan yn 2017. Nawr, bron ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r blaenasgellwr yn paratoi am ei 10fed tymor ym Mharc y Scarlets.

Yn adnabyddus am ei gyfradd waith ddi-baid, ei gario ffrwydrol a’i ddwyster o amgylch ardal y dacl, mae’r chwaraewr 27 oed wedi meithrin enw da fel un o gystadleuwyr mwyaf ffyrnig y garfan a chwaraewr sy’n dod ag egni a brwdfrydedd bob tro y mae’n gwisgo crys y Scarlets.

Wrth drafod ei gytundeb newydd dywedodd Dan Davis: “Mae’r clwb yn golygu cymaint i mi. Dwi wedi bod yma ers fod yn yr Academi ac roedd cael bodi fy nghanfed gêm ar achlysur fel darbi y gorllewin gyda fy nheulu a fy merch ifanc yna yn fy ngwylio yn foment arbennig a balch iawn.

“Nid yw’r tymor wedi dangos y canlyniadau rydym wedi eisiau, ond mae yna deimlad ymysg y grwp ein bod yn adeiladu ar rywbeth. Mae llawer o dalent ymysg y garfan a llawer o gystadleuaeth, dyna beth i chi eisiau fel chwaraewr.

“Mae’r gystadleuaeth yn gwthio safonnau ac rwy’n edrych ymlaen at ymladd am y crys bob wythnos. Yn bersonol, dwi am barhau i ddatblygu a dwi’n edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod o’r grwp.

“Bydd gêm fawr yma ar ddydd Sadwrn yn erbyn y Dreigiau yn gyfle i orffen yn gryf. Mae’r cefnogwyr wedi bod yn anhygoel eto dros y tymor. Os ydyn yn chwarae gartref, oddi cartref neu ar draws Ewrop, maent yn parhau i’n cefnogi ac fel grwp i ni am roi nôl trwy ein perfformiadau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr dros dro y Scarlets Nigel Davies: “Mae chwarae 100 gêm i’r un clwb broffesiynol yn gyflawniad arbennig a dylai Dan deimlo’n falch iawn am yr hyn mae wedi ei gyflawni yn barod yng nghrys y Scarlets.

“Mae’n flaenwr rheng ôl deinamig, mae ei arddull chwarae’n cyd-fynd â’r athroniaeth rygbi rydyn ni’n edrych i’w datblygu yma ac yn 27 oed, bydd ei brofiad yn yr URC ac yn Ewrop yn amhrisiadwy wrth helpu i ddod â’r dalent ifanc sydd gennym ni yn y garfan i’r amlwg.”

Dan yw’r chwaraewr diweddaraf i gyhoeddi gytundeb newydd, yn dilyn yr wythwr Fletcher Anderson, y capten Josh Macleod a’r cefnwr Jac Davies.

Mae’r clwb hefyd wedi cyhoeddi’r prop Corey Domachowski o Gaerdydd a Harvey Cuckson o Gaerfaddon, gyda rhagor o newyddion i’w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.