Datganiad gan y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan Undeb Rygbi Cymru s’yn cadarnhau bod y clwb wedi cael cynnig y cyfle i ymuno â’r Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA25).

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r WRU ar ei strategaeth ar gyfer y dyfodol, gyda’r bwriad o arwyddo’r cytundeb PRA25 ar ôl cwblhau diwydrwydd dyladwy – gan sicrhau mai dyma’r penderfyniad orau ar gyfer ein clwb a’r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli ledled Gorllewin Cymru.

Mae’r diweddariad PRA25 yn dod â’r posibilrwydd o sefydlogrwydd ariannol, llywodraethu cliriach a chydweithio cryfach dros y ddwy flynedd nesaf – gyda mwy o eglurder a fframwaith mwy teg ar gyfer y gêm broffesiynol.

Mae hyn yn dilyn buddsoddiad newydd sylweddol yn y Scarlets gan grŵp ariannu’r clwb sy’n parhau i fod wedi ymrwymo i’n dyfodol. Mae’r buddsoddiad yn bleidlais glir o blaid Llanelli, yn ein treftadaeth, ac yn nyfodol rygbi proffesiynol yng Ngorllewin Cymru a’i gysylltiadau dwfn â chwaraeon, cymuned a diwylliant.

Gyda nifer fawr o docynnau tymor y Scarlets wedi’u gwerthu yr wythnos hon, ynghyd ag adnewyddu noddwyr a phartneriaid allweddol, rydym nawr yn mynd i mewn i rediad o dair gêm fawr yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gyda momentwm a phositifrwydd newydd.

Mae’r gwaith caled, yr egni a’r ffocws yn parhau ar, ac oddi ar y cae. Mae’r cynllun sydd i yrru safonau perfformiad a chanlyniadau er mwyn i’r Scarlets cyrraedd y gemau ail gyfle ar waith. I ychwanegu at y newyddion da, mae gennym gyfres o gyhoeddiadau recriwtio cyffrous i’w cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.

Fe wnaeth y darbi penwythnos diwethaf dangos Parc y Scarlets fel llwyfan pwerus ar gyfer y gêm yng Nghymru. Gyda dros 1,000 o leoedd lletygarwch wedi’u gwerthu allan, gŵyl gymunedol yn cynnwys dros 500 o chwaraewyr iau a thorf o dros 9,000, mae’r angerdd dros rygbi yng Ngorllewin Cymru yn glir i’w weld.

Hoffem ddiolch i’n cefnogwyr, staff, chwaraewyr, partneriaid a theulu ehangach y Scarlets am eu gwaith caled parhaus, eu hymrwymiad, a’u teyrngarwch.