Ymunwch â ni ddydd Sadwrn yma, Hydref 10, wrth i ni Ddathlu ein Cymreictod.
Byddwn ni’n croesawu Benetton Rugby i Barc y Scarlets ar gyfer trydydd rownd Pencampwriaeth Unedig Rygbi BKT, cic gyntaf 17:30.
Am yr ail dro eleni, ry’n ni’n cydweithio gyda Menter Cwm Gwendraeth Elli i ddathlu ein Cymreictod, elfen holl bwysig o’n bywyd bob dydd yma ym Mharc y Scarlets.
Fel rhan o’r dathliadau fe fydd tri o fandiau ifanc Sir Gâr yn perfformio ym mar Tanner Banc. Yn agor y dathliadau bydd Penne Orenne, ar y llwyfan am 16:15 gydag Y Llanw ac Alys a’r Tri Gwr Noeth yn perfformio yn y bar ar ôl y gêm.
Bydd Côr y Scarlets yn perfformio cyn y gêm yn y neuadd fwyd yn Eisteddle Castell Howell y De.
Arhoswch yn eich sedd yn ystod hanner amser i fwynhau cân gan gôr Ysgol Ffwrnes.
Diolch i bawb sydd wedi cynnig caneuon ar gyfer ein restr chwarae cyn y gêm ac yn ystod unrhyw seibiant yn y chwarae – fe fydd llond lle o gerddoriaeth Gymraeg yn bloeddio trwy’r system sain i’ch diddanu!
Mae tocynnau ar gael nawr YMA
