Deuawd rhyngwladol yn dychwelyd i wynebu’r Gweilch

Rob LloydNewyddion

Y capten Josh Macleod a’i gydchwaraewr rhyngwladol Tom Rogers fydd yn dychwelyd i XV y Scarlets ar ddydd Sadwrn i herio’r Gweilch yn Electric Brewery Field ym Mhen-y-bont (17:30: S4C & Premier Sports).

Mae Macleod wedi gwella o anaf llinyn y gar, gyda Rogers wedi cwblhau protocolau anaf pen i ddychwelyd ar ôl colli allan ar y gêm ddiwethaf yn erbyn Vodacom Bulls.

Ar gyfer y gêm Rownd 17 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, bydd Rogers yn cychwyn yn y tri ôl sy’n cynnwys Blair Murray fel cefnwr a Macs Page ar yr asgell chwith.

Joe Roberts ac Eddie James sy’n parhau yng nghanol cae, yn ogystal â Joe Hawkins a Dane Blacker fel ein haneri.

Yn y rheng flaen mae Kemsley Mathias, Ryan Elias a Henry Thomas yn parhau yn eu safleoedd, ond mae yna newid i’r ail reng. Nid yw Sam Lousi ar gael oherwydd anaf i’w gefn felly mae Jac Price yn dod i mewn i gydweithio â Max Douglas.

Ar ôl colli’r tair gêm ddiwethaf, mae Macleod yn cychwyn ar yr ochr agored ymysg rheng ôl deinameg sydd hefyd yn cynnwys Taine Plumtree a Fletcher Anderson.

Bydd y chwaraewr rheng ôl Dan Davis yn gwneud ei 100fed ymddangosiad Scarlets os yw’n dod ymlaen oddi’r fainc.

Harry Thomas, Josh Morse, Harri O’Connor a Jarrod Taylor sydd yn cwblhau’r fainc i’r blaenwyr. Archie Hughes, Carwyn Leggatt-Jones ac Ioan Jones sydd ar gael i’r olwyr.

Dywedodd ein Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro Nigel Davies: “Mae’n achlysur mawr i wynebu’r Gweilch. Dyma beth mae’r cefnogwyr eisiau gweld, brwydrau fel hyn gyda’r chwaraewyr gorau yn herio’i gilydd. Mae’n dod ag lefel arall o ddwyster, angerdd, hunaniaeth a hefyd yn dod a haen ychwanegol i’r paratoadau, rhywbeth dwi wedi’i weld yn ein hymarferion yn yr wythnos.

“Mae’r ddwy gêm ddiwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn; wrth roi perfformiad da i mewn i’r ddwy gêm a theimlo os oedd mwy o feddwl a strategaeth yn y penderfyniadau ar y cae, gallwn wedi dod i ffwrdd gyda’r fuddugoliaeth.

“Mae’n bwysig ein bod yn troi i fyny gyda’r meddylfryd cywir bob gêm a fydd y canlyniadau yn dod gyda’r hyder a’r gred. Mae’n bwysig i gael y meddylfryd yn gywir y tymor hwn er mwyn i’r grŵp fod yn barod ar gyfer beth bynnag sydd i ddod tymor nesaf. Rydym yn annog y chwaraewyr i fod yn gystadleuol a pherfformio i lefel cyson, yn unigol ac fel grŵp, a fydd y Gweilch yn chwilio i’n herio bob munud ar ddydd Sadwrn.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Gweilch ar ddydd Sadwrn, Mai 9 (17:30; S4C & Premier Sports)

15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Macs Page; 10 Joe Hawkins, 9 Dane Blacker; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Jac Price, 5 Max Douglas, 6 Taine Plumtree, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.

Eilyddion: 16 Harry Thomas, 17 Josh Morse, 18 Harri O’Connor, 19 Dan Davis, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Carwyn Leggatt-Jones, 23 Ioan Jones.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Marnus van der Merwe, Sam Lousi, Ellis Mee, Sam Costelow, Jake Ball, Will Evans, Dom Kossuth.