Mae’r dyddiad cau i gysylltu am ein rhestr cyn chwaraewyr nawr wedi cau ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cysylltu â ni i helpu.
Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb gan chwaraewyr, teuluoedd a ffrindiau i’n harchif ar-lein o chwaraewyr sydd wedi gwisgo crys enwog y Scarlets ar draws ein hanes o 154 mlynedd.
Gallwch weld y rhestr YMA
Bydd y clwb nawr yn gwneud yr holl ychwanegiadau a gwelliannau angenrheidiol a byddwn yn rhoi gwybod i chi am gam nesaf y prosiect etifeddiaeth.
Bydd pob cyn-Scarlet yn cael rhif unigryw a thystysgrif goffaol, gyda’r rhestr anrhydedd yn cael ei lansio’n swyddogol yng ngêm gartref gyntaf tymor 2026-27, yn erbyn Caerdydd ddydd Sadwrn, Medi 26.
Yn ychwanegol i hyn, fe fydd restrau anrhydeddau newydd yn cael eu gosod yn Lolfa Strade ar gyfer y tymor newydd.
Mae prosiect y cyn-chwaraewyr yn rhan o ymrwymiad ehangach i ddathlu treftadaeth y Scarlets.
