Diweddariad anaf: Sam Costelow

Rob LloydFeatured

Fe fydd y maswr Sam Costelow yn absennol am weddill tymor y Scarlets ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei bigwrn.

Dioddefodd y maswr yr anaf yng ngêm Cymru yn erbyn yr Alban yn y Chwe Gwlad nôl ym mis Chwefror, ac nid yw wedi medru dychwelyd i’r cae chwarae ar gyfer y clwb.

Fe fydd y Scarlets yn cyhoeddi diweddariad llawn wythnos nesaf cyn y gêm ym Mharc y Scarlets yn erbyn Rygbi Caerdydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.