Dyma’r diweddaraf ar anafiadau yng ngharfan y Scarlets o flaen gêm yr ail rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ddydd Sadwrn yn erbyn Connacht.
Josh Macleod
Mae Josh wedi anafu ei gyhyr pectoral yn ystod ymarfer yn yr wythnos a ni fydd ar gael ar gyfer gêm dydd Sadwrn.
Sam Costelow
Mae Sam yn dilyn protocolau dychwelyd i chwarae ar ôl anaf i’r pen yn dilyn gêm Munster penwythnos diwethaf.
Sam Lousi
Mae disgwyl i Sam fod allan o’r dewis am gwpl o wythnosau yn dilyn anaf cyhyr.
Kemsley Mathias
Mae disgwyl i Kemsley golli mas ar gêm ddydd Sadwrn ar ôl delio â straen i’r cyhyr Oblique.
Archer Holz
Mae Archer yn agos at ddychwelyd yn dilyn feirws hirdymor.
Mae Jac Price yn parhau i fod Ryan Elias (penelin) ac Eddie James (cefn) yn parhau i wella o’u llawdriniaethau.
Mae clo yr Academi Will Evans (hamstring) yn parhau i wella, wrth i’r chwaraewr rheng ôl Dom Kossuth derbyn anaf i’w benglin tra’n chwarae i Lanymddyfri ac yn disgwyl i fod allan am gyfnod.
Mae Marnus van der Merwe yn parhau gyda’i ddyletswydd rhyngwladol yn Ne Affrica.