Mae chwaraewr rheng ôl y Scarlets Taine Plumtree wedi ei ryddhau o’r garfan genedlaethol yn dilyn yr anaf ddioddefodd i’w ysgwydd yn ystod y gêm rhwng Cymru a’r Alban ddydd Sadwrn.
Bydd y maswr Sam Costelow yn aros gyda charfan Cymru wrth iddo barhau â’r broses o wella o’r anaf gafodd i’w bigwrn yn yr un gêm.
