Diweddariad carfan y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Bydd chwaraewr newydd y Scarlets Fletcher Anderson yn ymuno â’r garfan ym Mharc y Scarlets wythnos nesaf.

Bydd yr wythwr 22 oed yn cyrraedd Gorllewin Cymru yn dilyn tymor arbennig gyda’r Tasman Makos yn Seland Newydd, lle enillodd teitlau Dyn y Flwyddyn, Chwaraewr y Flwyddyn ac Amddiffynnwr y Flwyddyn.

Mae cyfnod Kirby Myhill gyda’r Scarlets wedi dod i ben. Fe ddaeth Kirby, a ddatblygodd trwy Academi’r Scarlets, i mewn i’r garfan ar gytundeb byrdymor yn ystod y bloc agoriadol o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac wedi chwarae ym mhob un o’r gemau yn erbyn Munster, DHL Stormers, Lions a’r Hollywoodbets Sharks.

Rydym i gyd yn dymuno’r gorau i Kirby gyda’r bennod nesaf o’i yrfa.

Mae’r chwaraewyr ail reng Harvey Cuckson (Bath) ac Alex Groves (DHL Stormers) wedi dychwelyd i’w clybiau yn dilyn cyfnod byr gyda’r Scarlets. Hoffir y clwb ddiolch am eu cyfraniad a’u hymrwymiad yn ystod y daith yn Ne Affrica a dymuno’r gorau am weddill y tymor.

O ran anafiadau, mae Josh Macleod (cyhyr pectoral), Eddie James (cefn), Max Douglas (asennau), Ryan Elias (penelin) a Jac Price (anaf nerf) yn i gyd yn gwneud cynnydd positif yn eu hadferiadau cyn ailddechrau’r bencampwriaeth ar ddiwedd mis Tachwedd pan fydd y Scarlets yn herio cyn-bencampwyr Glasgow Warriors ym Mharc y Scarlets (dydd Sadwrn, Tachwedd 29).

Mae chwaraewr rheng ôl yr Academi Dom Kossuth yn gwella o anaf i’w ben-glin a gafwyd wrth chwarae i Lanymddyfri a disgwylir i ddychwelyd yn y flwyddyn newydd.

Mae blaenwyr yr Academi Osian Williams (pigwrn) a Will Evans (hamstring) yn parhau i wella fel rhan o’r grŵp ‘dychwelyd i chwarae’