Fletcher Anderson sy’n ennill pleidlais Chwaraewr y Mis

Rob LloydNewyddion

Fletcher Anderson sydd wedi ennill y bleidlais Chwaraewr y Mis Vaughan Construction am fis Tachwedd/Rhagfyr.

Mae’r wythwr 22 oed wedi serennu ers cyrraedd o Seland Newydd gyda sawl perfformiad cryf a phwerus, yn enwedig yn Bordeaux pan groesodd am ddwy gais.

Enillodd Fletcher 37% o’r bleidlais ar-lein, gan guro’r mewnwr Gareth Davies, asgellwr Ellis Mee a’r canolwr Eddie James.