Fletcher Anderson yn arwyddo cytundeb newydd

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets yn falch o gadarnhau bod yr wythwr, Fletcher Anderson, wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r rhanbarth.

Wedi creu argraff ers cyrraedd o Seland Newydd ym mis Tachwedd, mae’r chwaraewr 23 mlwydd oed yn gyflym gwneud enw i’w hun ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ac wedi sicrhau perfformiadau arbennig ym mhedair gêm Cwpan Pencampwyr Invested y tymor hwn.

Yn gariwr pêl dynamig, yn amddiffynwr selog ac yn gystadleuydd di-flewyn ar dafod, mae Anderson wedi datblygu’n gonglfaen yn y garfan , nid yn unig trwy berfformiadau arbennig ond hefyd gyda’i steil arweinyddol.

Mae’r wythwr yn drydydd yn nhabl y gynghrair o’r chwaraewyr sydd wedi cario’r nifer o weithiau, mae ar frig y tabl am y nifer o amddiffynwyr y mae wedi goroesi a’r nifer o daclau.

Mae ei ffordd dylanwadol wedi ei weld yn arwain y tîm yn erbyn Connacht a Leinster, gyda’i gyd chwaraewyr, hyfforddwyr, sylwebwyr a chefnogwyr yn ei ganmol.

Yn ffefryn gyda’r cefnogwyr brwd yn barod, mae Fletcher wedi ennill tlws Cais y Mis ar dair achlysur yn olynol ac mae ei gytundeb newydd yn arwydd o’i uchelgais gyda’r Scarlets.

Dywedodd Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets, bod datganiad Anderson yn arwydd o’r llwybr y mae’r clwb arni.

Dywedodd: “Mae hwn yn gytundeb holl bwysig i ni, nid yn unig oherwydd y math o chwaraewr yw Fletcher, ond hefyd oherwydd yr hyn y maen ei gynrychioli.

“O’r foment iddo gyrraedd, mae wedi gosod safonau. Mae e’n gorfforol, yn gystadleuol, ac yn bwysicach, mae ganddo rhinweddau da fel arweinydd sy’n gosod seiliau’r hyn ry’n ni’n adeiladu yma.

“Dyma’r union math o chwaraewr ry’n ni eisiau yng nghalon y garfan yma wrth symud ymlaen – rhywun sy’n ddewr yn ei steil o chwarae, yn rhan o’r grwp ac yn ddiffuant yn ei awydd i wella ac i ennill.

“Mae lot fawr o ddiddordeb wedi bod yn Fletcher, felly mae’r ffaith ei fod wedi penderfynu aros yma yn adrodd cyfrolau am ei gred yn yr hyn sy’n cael ei greu. Rydyn ni’n adeiladu rhywbeth yma a fydd yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf yn y dyfodol.

“Mae hwn yn gam arall ymlaen. Rydyn ni’n adeiladu tîm ac amgylchedd a all sicrhau llwyddiant i’r dyfodol, ac fe fydd Fletcher yn rhan allweddol o’r siwrne yna.”

Yn chwaraewr sydd wedi cynrychioli Ysgolion Seland Newydd, fe ddaeth Anderson trwy Academi’r Crusaders cyn chwarae ei gêm gyntaf yn Super Rugby Pacific yn 2025. Cafodd dymor arbennig gyda Tasman Makos, lle enwyd ef yn Chwaraewr Y Flwyddyn, Amddiffynwr Y Flwyddyn a Dyn y Flwyddyn.

Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd Anderson: “Rwy’n gyffrous iawn am y dyfodol gyda’r Scarlets a’r hyn ry’n ni’n adeiladu yma a’r hyn y gallwn ni ei gyflani. O’r diwrnod cyntaf, rwy’n teimlo fy mod wedi cael cefnogaeth yr hyfforddwyr ac yn rhan o’r grwp.

“Mae yna fwriad a chred yma ac fe wnaeth hynny’n penderfyniad yn un hawdd.

“Rwyf wedi mwynhau’r cyfle i chwarae’r gêm yr wyf yn ei garu yn wythnosol – mae hynny wedi bod yn wych.

“Ry’n ni’n garfan ifanc ac mae lot fawr o botensial yma, ac rwyf i’n awyddus iawn i fod yn rhan o hynny ac helpu’r Scarlets yn ôl i lle ddylai’r clwb fod.

“Roedd chwarae mewn llefydd fel Bordeaux a Northampton i dorfeydd mawr yn brofiad arbennig, ac ennill ym Mharc yr Arfau hefyd, ond trechu Ulster fel wnaethon ni o flaen torf cartref – mae hwn yn uchafbwynt sy’n aros yn y cof i fi.”

Aeth Anderson ymlaen i son am argraff y cefnogwyr ar ei benderfyniad: “Mae’r gefnogaeth yma wedi bod yn wych. Mae’r Scarlets yn falch ac yn angerddol iawn, mae’r clwb yn golygu lot iddyn nhw ac mae hwn yn ysbrydoliaeth bob tro ry’n ni’n gwisgo’r crys.

“Ry’n ni eisiau cynrychioli hynny’n iawn – ac mae hyn yn rhan mawr o’r rheswm yr wyf yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod.”

Fe fydd datganiadau pellach am y garfan a’r strwythur hyfforddi dros yr wythnos nesaf wrth i’r Scarlets barhau i adeiladu at y dyfodol.