Gwrandewch ar bodlediad y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Yn ystod tymor 2025-26 bu Garan Evans yn cyflwyno podlediad y Scarlets.

Cyfle i edrych ymlaen at gemau yn y Parc, edrych yn ôl ar eiliadau cofiadwy yn y llyfrau hanes, a sgwrsio gyda chyn chwaraewyr a rai o sêr y clwb.

Pennod 1: 

Garan Evans sy’n eistedd i lawr gyda Jake Ball, Gareth Davies a Ryan Elias ym mhennod gyntaf podlediad newydd y Scarlets.

Mae’r tri yn trafod atgofion Ewrop y tri a gobeithio y Scarlets wrth i Gwpan Pencampwyr Investec ddychwelyd i Barc y Scarlets.

Gwrandewch ar Spotify

Gwyiwch ar YouTube

Pennod 2:

Mae’r cyflwynydd Garan Evans yn ôl gydag ail bennod podlediad y Scarlets cyn y gêm fawr yng Nghwpan Pencampwyr Investec yn erbyn Section Paloise.

Yn ymuno ag ef mae’r cyn chwaraewyr Jonathan ‘Fox’ Davies, Scott Williams ac Aaron Shingler.

Gwrandewch ar Spotify

Gwyliwch ar YouTube

Pennod 3:

Mae Garan Evans yn sgwrsio gyda Carwyn Leggatt-Jones, Fletcher Anderson, a Josh Macleod. Mae’r chwaraewyr yn edrych yn ôl ar y tymor hyd yn hyn, yn edrych ymlaen i’r gemau darbi, ac yn edrych ymlaen i dymor 2026-27.

Gwrandewch ar Spotify

Gwyliwch ar YouTube

Pennod 4:

Mwynhewch y podloediad diweddaraf wrth i Joe Hawkins, Max Douglas a Bradley Davies drafod gemau darbi, dalu teyrnged i’r chwaraewyr sy’n gadael y clwb, ac yn edrych ymlaen i’r chwaraewyr ifanc a chyffrous bydd yn cael cyfle yng nghrys y Scarlets tymor nesaf.

Gwrandewch ar Spotify 

Gwyliwch ar YouTube