Mae’r prop rhyngwladol Henry Thomas wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb yn nhymor 2026-27.
Mae’r prop pentynn wedi bod yn gonglfaen o bac y Scarlets ers iddo gyrraedd Llanelli yn 2024, gan chwarae 41 gêm mewn dau dymor.
Fe fydd y chwaraewr profiadol yn parhau i chwarae rôl bwysig yn y garfan, gan ychwanegu safon rhyngwladol, arbenigedd technegol ac arweinyddiaeth i un o’r safleoedd mwyaf heriol yn y gêm.
Yn sgrymiwr cryf ar lefel rhyngwladol, roedd Thomas yn aelod o garfan Cwpan Rygbi’r Byd Cymru tair mlynedd yn ôl ac mae wedi ennill saith cap, y mwyaf diweddar yn ystod Chwe Gwlad 2025. Fe gynrychiolodd Lloegr ar saith achlysur cyn hynny.
Wedi dechrau ei yrfa proffesiynol gyda Sale Sharks, ac yna Caerfaddon – clwb y gynrychiolodd am saith mlynedd – ymunodd y chwaraewr 34 mlwydd oed â’r Scarlets ar ôl cyfnodau gyda Castres Olympique a Montpellier yn y Top14 yn Ffrainc.
Mae ail arwyddo Thomas yn ychwanegu dyfnder i grwp cryf o chwaraewyr reng flaen yn y clwb, gan greu cystadleuaeth ymhlith grwp ifanc a thalentog o’r rhanbarth.
Cred y Cyfarwyddwr Rygbi, Nigel Davies, bod cadw Thomas yn benderfyniad strategol bwysig wrth i’r clwb barhau i adeiladu carfan sy’n gallu cystadlu’n gyson trwy gydol y tymor.
“Pan yn adeiladu carfan, mae yna safleoedd lle mae profiad yn hanfodol ac mae’r prop pentynn yn un o’r rheini.”
“Mae pobl yn aml yn ffocysu ar oed. Ry’n ni’n ffocysu ar gyfraniad. Mae Henry yn parhau i gyfrannu ar lefel uchel, mae’n e’n parhau’n gystadleuol, yn paratoi yn arbennig o dda ac yn gosod safonnau’n ddyddiol.”
Dywedodd Henry Thomas: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r Scarlets. Rwy’n teimlo bod lot gyda fi i’w rhoi o hyd ac rwy’n gyffrous iawn am yr hyn sydd i ddod. Rwyf wedi mwynhau fy amser yma ac rwy’n wir yn teimlo ein bod ni’n adeiladu rhywbeth cyffrous.
“Mae gyda ni grwp dalentog gyda cymysgedd o ieuenctid a phrofiad. Rwy’n edrych ymlaen i barhau i gyfrannu, cynorthwyo’r bois ifanc a gwneud pob peth posib i sicrhau ein bod ni’n mwynhau profiad llwyddiannus.”
Mae Thomas yn ychwanegu i garfan 2026-27 ar gyfer yr ymgyrch newydd.
Mae Fletcher Anderson, Josh Macleod, Gareth Davies, Dan Davis, Sam Lousi, Harri O’Connor, Jac Davies, Will Evans, Carwyn Leggatt-Jones a Gabe Hawley wedi arwyddo cytundebau newydd, tra bod Corey Domachowski, Harvey Cuckson, Alex Groves a Tom Allen, John McKee a George Roberts, Isaac Murray-Macgregor a Cullen Grace yn ymuno â’r garfan.
Fe fydd y Scarlets yn agor ymgyrch URC gyda gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd, Sadwrn 27 Medi. Gallwch brynu tocynnau i’r gêm yma ynghyd a thocynnau tymor.
