Hunaniaeth yn allweddol wrth i gannoedd wneud eu teimladau’n glir yn Llyfr Agored y Scarlets

GwenanFeatured

Diolch enfawr i bob un o’n cefnogwyr a rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu at Lyfr Agored y Scarlets i roi adborth ar safbwyntiau pawb sy’n gysylltiedig â’n clwb i ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar y gêm broffesiynol yng Nghymru.

Cyflwynwyd cannoedd o geisiadau gyda chyfranwyr o bob cwr o’r DU. Roedd cyflwyniadau ysgrifenedig yn ddigon i lenwi llyfr 200 tudalen.

Mae mwy na 50,000 o eiriau wedi cael eu hysgrifennu gan y rhai sy’n gysylltiedig â’r Scarlets yn sôn am ddyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru a rôl y clwb ynddi. Bydd y rhain nawr yn cael eu cyflwyno i Undeb Rygbi Cymru gan y Scarlets fel rhan o’r ymgynghoriad.

O’r cyflwyniadau, mae mwy na 97% naill ai’n gwrthwynebu cynllun gorau posibl URC yn llwyr neu dim ond yn gallu cefnogi newid os yw hunaniaeth unigryw a chartref y Scarlets yn cael eu diogelu mewn strwythur yn y dyfodol.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Jon Daniels: “Mae wedi bod yn galonogol iawn ac yn hwb cadarnhaol mewn cyfnod heriol i weld lefel yr ymgysylltiad a’r emosiwn a ddarperir yn y ‘Llyfr Agored’.

“Crëwyd y llyfr i alluogi pawb sy’n gysylltiedig â’n rhanbarth rygbi i rannu eu llais fel rhan o ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru.

“Nid yn unig o’r chwaraewyr ar y cae y daw cryfder ein clwb, ond hefyd o angerdd, cefnogaeth ac ymrwymiad ein noddwyr, partneriaid a chefnogwyr oddi arno. Roedd y Scarlets eisiau sicrhau bod y darlun llawn yn cael ei gyflwyno o bob cwr o’i gymuned a bod gan bob llais gyfle i gael ei glywed.”

“Yr hyn sy’n amlwg o’r safbwyntiau a rannwyd yw bod gwerth mawr yn cael ei roi ar allu’r Scarlets i angori rygbi elitaidd yng Ngorllewin Cymru, i ddatblygu talent y dyfodol, hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol a thwf economaidd ar draws y rhanbarth hefyd.

“Yr hyn sydd hefyd yn sefyll allan yw faint o falchder sydd gan bawb yn ein hanes cyfoethog a’u cefnogaeth ysgubol i ddyfodol disglair rygbi proffesiynol ym Mharc y Scarlets.”