Jake Ball i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

Rob LloydFeatured

Yn dilyn 148 ymddangosiad i’r Scarlets a 50 i Gymru, fe fydd Jake Ball yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor.

Mae cyfuniad o anafiadau a diddordebau busnes wedi ei berswadio i ymddeol yn 34 mlwydd oed. Mae’r penderfyniad yn dod â gyrfa llewyrchus o ddegawd a mwy gyda’r Scarlets i ben.

“Mae nawr yn teimlo fel yr amser iawn. Rwyf wedi cael ambell gyfergyd, ambell anaf. Rwy’n teimlo fel bod y corff yn trio dweud rhywbeth,” meddai Jake.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi dod yn ôl ac wedi rhoi cynnig arall i bethau gyda’r Scarlets. Rwyf wedi mwynhau bod yn ôl yn yr awyrgylch a bod yn chwaraewr proffesiynol unwaith eto. Mae cael ymddeol yma, yn y clwb lle ddechreuodd pob peth i fi, yn gwneud y peth hyd yn oed yn fwy arbennig.

“Fe adawodd fy ngwraig Christie a’r plant yn ystod Covid heb gael cyfle go iawn i ddweud hwyl fawr. Mae’r plant wedi mwynhau dod i Barc y Scarlets a gwylio dad yn chwarae, maent wedi bod yn awyddus iawn i ddod i gemau a dechrau chwarae eu hunain. Mae cael y cyfle i chwarae o flaen y plant yn rhywbeth y byddaf yn siwr o drysori.”

Yn enedigol o Ascot, ond wedi ei fagu yn Awstralia, ymunodd Jake â’r Scarlets yn 2012 o dîm Western Force. Yn gymharol anhysbys, fe ddechraeuodd chwarae i dîm Llanelli yn yr uwch gynghrair cyn gwneud ei ymdangosiad cyntaf i’r Scarlets yn erbyn Connacht yn Galway.

Sefydlodd ei hun yn chwaraewr allweddol ym mhac y Scarlets yn sydyn iawn, gyda’i steil corfforol, ymosodol a gweithgar. Fe enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf i Gymru yn 2014.

Roedd yn rhan o’r garfan a aeth ar rediad arbennig cyn ennill teitl Guinness PRO12 yn 2017 ac fe chwaraeodd ei rhan yn y gêm derfynol yn Nulyn flwyddyn yn ddiweddarach, yn ogystal â’r gêm gyn-derfynol yn y Cwpan Pencampwyr.

Pum mlynedd yn ôl, gyda phandemig Covid yn ei hanterth, penderfynodd Jake ddychwelyd adref i Awstralia, gan ddod â gyrfa naw mlynedd gyda’r Scarlets i ben. Roedd hefyd wedi chwarae hanner cant o gemau i Gymru, wedi bod yn aelod o garfan a ennillodd y Gamp Lawn ac wedi cynrychioli Cymru mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd.

Yn dilyn cwpwl o flynyddoedd yn Siapan, fe wnaeth ymddeol o rygbi, ond yna daeth yr alwad i wisgo’r ‘sgidiau unwaith eto a dychwelyd i Lanelli ar gyfer ymgyrch 2025-26.

Mae Jake wedi chwarae 14 gêm tymor yma, ond mae anaf i’w law wedi ei atal rhag cyrraedd 150 o gemau.

Fe fydd ef a’i deulu yn hytrach yn ffarwelio â’r cefnogwyr cyn y gêm ddydd Sadwrn pan fydd y Scarlets yn croesawu’r Dreigiau i’r Parc.

“Mae’r cefnogwyr yna yn grwp arbennig, mae eu hangerdd at y tîm yn anhygoel ac maent wedi bod yn wych i fi a’r teulu,” ychwanegodd Jake.

“Un gêm sy’n sefyll mas yw’r gêm Cwpan Heineken yn erbyn Harlequins yn y Stoop pan ddaeth un cefnogwr ar y cae a fy nghofleidio ar ôl i ni ennill!

“Ry’n ni wedi profi uchafbwyntiau arbennig, y rhediad yna i ennill pencampwriaeth 2017. Ewrop y flwyddyn canlynol – roedd hwn yn gyfnod arbennig gyda grwp arbennig o chwaraewyr. Fe fyddaf wastad yn cofio’r cyfeillgarwch, y bobl sydd wedi gwneud fy amser yma mor arbennig. Nid wyf yn gallu diolch digon iddynt.”

Fe fydd Jake yn awr yn rhoi ei egni i’w fusnes atchwanegiadau, Veritroo.

“Ry’n ni wedi bod wrthi ers pedair blynedd ac rwy’n angerddol iawn amdano. Mae’r cwmni’n mynd yn dda, felly fe fyddaf yn dychwelyd i Awstralia ac yn gweithio’n llawn amser yn y busnes. Mae’n dechrau cymryd lot o fy amser ac mae’n gyffrous iawn.

“Mae bod yn ôl yng Nghymru wedi rhoi’r cyfle i fi dreulio amser gyda fy nheulu. Roeddwn i yma am 10 mis ar ben fy hun ar ôl i Christie a’r plant ddychwelyd i Awstralia ac yna wyth mis yn Siapan pan nad oedd hawl gyda fi i adael.

“Mae pawb wedi mwynhau bod yn ôl. Mae’r bois wrth eu bodd gyda’r rygbi – a phwy a wyr, os ydyn nhw’n dda falle y daw nhw nôl!

“Mae’n mynd i fod yn drist i adael, rwyf wedi treulio hanner fy mywyd yn chwarae rygbi.

“Ond mae’n gyffrous iawn i weld y talent ifanc yn datblygu ac fe fyddaf yn cadw llygad barcud ar ddatblygiad y clwb.

“Cefais i gyfle gan y Scarlets, dyma lle ddechreuodd pob peth ac fe fyddaf yn dragwyddol ddyledus i’r clwb am hynny.”